Newyddion

Transport-for-Wales-Launch-Customer-Panel

Trafnidiaeth Cymru yn lansio panel ar-lein newydd er mwyn helpu i lunio dyfodol ei rwydwaith trafnidiaeth

10 Tachwedd 2021

Gofynnir i aelodau’r cyhoedd gofrestru a rhannu eu barn drwy arolygon a thrafodaethau ar-lein.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio cymuned ar-lein newydd o’r enw ‘Sgwrs’ er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd rannu eu barn a helpu i lunio dyfodol teithio yng Nghymru.

Bydd aelodau’r gymuned yn cymryd rhan mewn arolygon, trafodaethau ar-lein a fforymau trafod ar-lein wedi’u goruchwylio ynghylch ystod o bynciau’n ymwneud â thrafnidiaeth. Bydd yr adborth a rennir yn helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau Trafnidiaeth Cymru ynghylch dyfodol teithio ar drenau a bysiau, yn ogystal â dulliau teithio llesol megis beicio a cherdded.

Yn gyfnewid am hynny, bydd aelodau’r panel:

  • Yn cael gweld cynnwys a rennir â’r aelodau yn unig
  • Yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn cystadlaethau neu loteri bob mis, gyda gwobrau i gyfranogwyr a gaiff eu dewis ar hap er mwyn diolch iddynt am gymryd rhan mewn arolygon.
  • Yn cael gwobrau pellach a roddir i aelodau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol.

 

Meddai Geraint Stanley, Rheolwr Prosiect Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym am drawsnewid trafnidiaeth er budd pobl Cymru, felly mae’n hanfodol ein bod yn casglu barn cynifer o bobl ag sy’n bosibl i ddylanwadu ar ein gwaith.

“Ein nod yw troi ‘Sgwrs’ yn gymuned ar-lein weithgar sy’n cynrychioli poblogaeth amrywiol Cymru a’r cwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu.

“Rydym yn wirioneddol awyddus i bobl gymryd rhan. Yn gyfnewid am hynny, bydd y cyfranogwyr yn cael gwobrau, yn cael gweld cynnwys a rennir â nhw yn unig, ac yn cael cyfle i ennill gwobrau neu gystadlaethau bob mis am gymryd rhan mewn gweithgareddau.”

 

Ydych chi’n meddwl y byddai gennych ddiddordeb mewn rhywbeth fel hyn? Cofrestrwch yma heddiw!

 

Bydd panel ‘Sgwrs’ yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil a chreu cymuned ar-lein yn unig, ac ni chysylltir â’r cyfranogwyr ar unrhyw adeg er mwyn gwerthu neu hyrwyddo rhywbeth iddynt.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon