Newyddion

Nextbike-Service-Suspension-Due-To-Vandalism

Cynllun Nextbike yng Nghaerdydd wedi’i atal dros dro oherwydd bod beiciau’n cael eu dwyn a’u difrodi

11 Tachwedd 2021

Mae cynllun rhannu beiciau’n cael ei atal dros dro ar ôl misoedd pan welwyd beiciau’n cael eu dwyn a’u difrodi a staff yn cael eu bygwth.

Cyfieithiad o erthygl newyddion ar wefan newyddion y BBC.

 

Bydd cynllun Nextbike, sy’n darparu beiciau i’w rhentu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, yn cael ei atal dros dro o 15 Tachwedd tan y flwyddyn nesaf tra bydd beiciau’n cael eu hatgyweirio a rhai newydd yn cael eu prynu.

Mae dros hanner beiciau’r cynllun wedi cael eu dwyn neu’u dinistrio. Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Nextbike, roedd nifer yr achosion o ddwyn a difrodi beiciau yn “syfrdanol” ac yn rhywbeth na welwyd mo’i debyg yn unman arall yn y DU.

Fodd bynnag, mae’r gweithredwr wedi rhybuddio y gallai’r cynllun ddod i ben yn barhaol os na fydd y sefyllfa’n gwella.

Ers i’r cynllun gael ei lansio, mae tua 136,000 o bobl wedi defnyddio’r beiciau ac wedi’u rhentu dros 1.2 miliwn o weithiau. Ers hynny, fodd bynnag, mae 260 o feiciau wedi gorfod cael eu sgrapio ar ôl iddynt gael eu difrodi ac mae 300 o feiciau eraill wedi’u dwyn, gyda bron hanner y rheini’n cael eu dwyn ers mis Awst eleni.

 

Meddai Krysia Solheim, Rheolwr Gyfarwyddwr Nextbike UK:

“All ein timau ddim ymdopi â’r holl ddwyn a’r holl ddifrodi sy’n digwydd.

“Bydd y beiciau’n ôl ar y strydoedd ddechrau’r flwyddyn nesaf, ond os bydd y dwyn a’r difrodi yn parhau fel hyn bydd yn rhaid i ni ddod â’r cynllun i ben yn barhaol,” meddai.

“Mae’n fwy torcalonnus fyth ein bod yn gorfod gwneud hyn yn ystod COP26, pan fo sylw’r byd ar y DU wrth i arweinwyr geisio cytuno ar atebion i’r newid yn yr hinsawdd.”

Dywedodd Ms Solheim fod y cwmni ymchwilio preifat a gyflogwyd gan Nextbike wedi cael gafael dros gyfnod o ddeuddydd ar 16 o feiciau a oedd ar goll neu a oedd wedi’u dwyn, a bod swyddogion y cwmni “wedi’u syfrdanu gan yr ymddygiad a welsant”.

 

Meddai Dafydd Trystan Davies, cadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Cymru:

“Rydym yn gwybod bod miloedd o deithiau 2-5 cilomedr yn cael eu gwneud mewn ceir bob dydd, sef y pellter perffaith ar gyfer mynd am dro ar gefn beic. Felly, mae gallu cael gafael ar feiciau’n lleol yn ffordd wych o fynd i’r afael â llygredd aer a’r newid yn yr hinsawdd.”

Dywedodd yr Arolygydd Darren Grady o Heddlu De Cymru na fyddai’r heddlu yn goddef achosion o ddwyn neu ddifrodi’r beiciau nac achosion o sarhau staff Nextbike.

“Yng nghanol y ddinas yn unig, mae naw o bobl wedi cael eu dyfarnu’n euog yn y llys yn ddiweddar o gyflawni troseddau o’r fath, ac wedi cael dedfrydau o garchar, dirwyon a gorchmynion i wneud gwaith cymunedol,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y beiciau’n ôl ar y strydoedd yn fuan ac rydym yn apelio ar y gymuned i helpu i warchod y cynllun pan fydd yn dychwelyd.”

Mae Nextbike yn bwriadu cyflwyno mesurau megis gosod mwy o deledu cylch cyfyng, symud gorsafoedd i fannau sydd wedi’u goleuo yn well, a rhoi camerâu corff i aelodau o staff.

 

Meddai’r Cynghorydd Caro Wild sy’n aelod o gabinet Cyngor Caerdydd:

“Mae’n rhaid i’r difrodi difeddwl hwn stopio a byddwn yn cydweithio’n agos â Nextbike a’r heddlu i sicrhau bod hynny’n digwydd pan fydd y beiciau’n dychwelyd yn y flwyddyn newydd.

“Mae’n hollol annerbyniol bod nifer fach o bobl yn cymryd y beiciau hyn oddi ar drigolion eraill yn y ddinas.

“Mae’r beiciau yn wirioneddol bwysig i lawer o bobl yng Nghaerdydd ac yn eu helpu i fynd i’r gwaith, mynd i siopa neu ymweld â pherthnasau a ffrindiau.”

 

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru sydd wedi helpu i ariannu’r cynllun rhannu beiciau yng Nghaerdydd, fod y sefyllfa’n “drist iawn” ond ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i gefnogi’r cynllun – allwn ni ddim gadael i fandaliaid ei ddifetha.”

 

Ni fydd gwybodaeth am wasanaethau Nextbike yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ar gael am gyfnod ar ein gwefan, tra bydd y cynllun wedi’i atal. Mae’r cynllun yn dal i weithredu’n ôl yr arfer yn Abertawe.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Newyddion y BBC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon