
DIWEDDARIAD: Bydd gwasanaethau Bysiau Arriva Cymru yn ailddechrau ddydd Gwener 19 Tachwedd ar ôl cytundeb yn dilyn y streic
18 Tachwedd 2021Bydd gwasanaethau Bysiau Arriva Cymru yn ailddechrau yn y gogledd ac ardal Caer ddydd Gwener 19 Tachwedd.
Our data team have now re-instated Arriva Buses Wales timetable information on our Journey Planner, Timetables page and Travel Map. |
Gall Arriva gadarnhau y bydd ei wasanaethau bws yn ailddechrau yn y gogledd ac ardal Caer bore yfory. Daw’r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau pellach â’r undeb llafur Unite yr wythnos hon, a arweiniodd at ddod â’r streic i ben.
Disgwylir y bydd pob gwasanaeth yn gweithredu o amser y bws cyntaf ddydd Gwener 19 Tachwedd ymlaen, ond mae Arriva yn rhybuddio y gallai fod yna broblemau gyda rhai o’i wasanaethau ben bore wrth i’r cwmni fynd ati dros nos i’w hailddechrau.
Meddai llefarydd ar ran Bysiau Arriva Cymru: “Dyma newyddion da i’n cwsmeriaid yn y gogledd ac ardal Caer, ac rydym yn falch bod y trafodaethau a barhaodd yr wythnos hon wedi arwain at ymrwymiad gan y ddwy ochr i ddod o hyd i ffordd ymlaen fel bod gwasanaethau’n gallu ailddechrau yfory.”