Newyddion

Transport-for-Wales-December-Timetable-Changes

Cynnydd yn nifer y gwasanaethau trên ar draws rhwydwaith Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru o ddydd Sul 12 Rhagfyr ymlaen

09 Rhagfyr 2021

Bydd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Crosskeys a Chasnewydd yn cael eu hailgyflwyno hefyd am y tro cyntaf ers 60 mlynedd.

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

Caiff cwsmeriaid eu hannog i wirio manylion eu taith wrth i nifer y gwasanaethau trên ar draws rhwydwaith Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a’r Gororau gynyddu o ddydd Sul 12 Rhagfyr ymlaen.

Bydd y newidiadau hefyd yn golygu bod gwasanaethau uniongyrchol rhwng Crosskeys a Chasnewydd yn cael eu hailgyflwyno am y tro cyntaf ers bron 60 mlynedd.

Ni fydd y newidiadau’n effeithio ar amserau llawer o wasanaethau, ond dylai cwsmeriaid sicrhau o hyd eu bod yn gwirio eu hamserau gadael a chyrraedd ac amserau unrhyw gysylltiadau.

 

Meddai Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: 

“Rydym yn cyflwyno mwy o wasanaethau ar draws ein rhwydwaith ac yn gwneud addasiadau mewn mannau eraill o 12 Rhagfyr ymlaen. Mae’n wirioneddol bwysig bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn iddynt deithio. 

“Wrth i ni groesawu mwy o gwsmeriaid yn ôl i’n gwasanaethau, bydd rhai trenau’n fwy prysur nag y maent wedi bod ers amser, yn enwedig yn ystod y cyfnod prysur cyn y Nadolig. Nid yw cadw pellter cymdeithasol yn ofynnol ar hyn o bryd ond mae’n rhaid i bobl wisgo gorchudd wyneb, oni bai eu bod wedi’u heithrio. Dylai cwsmeriaid a fyddai’n hoffi teithio ar wasanaethau tawelach ddefnyddio ein hadnodd Gwirio Capasiti.”

Caiff cwsmeriaid eu hatgoffa bod gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn dal yn ofynnol gan y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, oni bai eu bod wedi’u heithrio. Rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn gorsafoedd amgaeëdig hefyd. 

Rhaid i gwsmeriaid brynu tocyn dilys cyn ymuno ag un o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Gallwch wirio manylion eich taith a phrynu tocynnau yma.

Bydd gwaith trawsnewid sy’n gysylltiedig â’r metro yn digwydd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pan fydd y rhwydwaith yn dawelach, felly dylai cwsmeriaid wirio a fydd hynny’n effeithio ar eu gwasanaeth.

Bydd gwaith peirianyddol mawr yn parhau i fynd rhagddo ar Draphont Abermaw tan ddydd Mercher 29 Rhagfyr. O ganlyniad, bydd gwasanaeth bws yn rhedeg yn lle’r gwasanaeth trên rhwng Machynlleth a Phwllheli.

 

Mae manylion y newidiadau i’r amserlen i’w gweld isod:

Gwasanaethau'r Cymoedd

  • Crosskeys - Casnewydd (gwasanaeth bob awr tan 21:20 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn). Llwybr newydd.
  • Crosskeys - Casnewydd (bob dwy awr ar ddydd Sul). Llwybr newydd.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (22:34 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol tan 31ain Rhagfyr 2021.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (23:02 dydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol o 3ydd Ionawr 2022.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (23:07 o ddydd Llun i ddydd Iau). Gwasanaeth newydd o 3ydd Ionawr 2022.
  • Canol Caerdydd - Tref Glyn Ebwy (23:02 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Maesteg (22:37 o ddydd Llun i ddydd Iau). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Maesteg (22:36 dydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Pont-y-pŵl a New Inn. Yr un faint o wasanaethau oedd ar gael cyn Covid yn dychwelyd.

Llinell Dinas Caerdydd (ar gyfer Ysgol Esgob Llandaf):

  •  Y Tyllgoed - Coryton (yn newid o 15:10 i 15:08). Amser gadael newydd.

Llinellau Gorllewin Cymru:

  • Caerfyrddin - Doc Penfro (21:10 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Caerfyrddin - Doc Penfro (21:00 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Doc Penfro - Caerfyrddin (22:27 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Doc Penfro - Caerfyrddin (22:18 (dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Caerfyrddin - Harbwr Abergwaun (18:05 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Caerfyrddin i Harbwr Abergwaun (18:02 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Harbwr Abergwaun - Caerfyrddin (19:05 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Harbwr Abergwaun i Gaerfyrddin (19:00 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Abertawe yn parhau i Gaerfyrddin (22:27 dydd Sadwrn). Gwasanaeth newydd.

Lein Calon Cymru (o 3ydd Ionawr 2022):

  • Abertawe i'r Amwythig (09:28 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Abertawe i'r Amwythig (09:12 dydd Sadwrn). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Amwythig - Abertawe (05:56 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.

Llinell Arfordir y Cambrian:

  • Y Bermo - Machynlleth (06:45 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gwasanaeth ychwanegol.
  • Llinell Arfordir y Cambrian (gwasanaethau ganol fore Sul). Ailddechrau gwasanaethau.

Canol Wrecsam - Bidston:

  • Wrecsam Canolog - Bidston (12:34). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.
  • Wrecsam Canolog - Bidston (13:34 dydd Mawrth i ddydd Iau). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.
  • Wrecsam Cyffredinol - Bidston (21.56 dydd Llun i dydd Sadwrn). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.
  • Bidston - Wrecsam Cyffredinol (22:57 dydd Llun i dydd Sadwrn). Gwasanaeth trên yn ailddechrau.

Cheltenham Spa a Chaerloyw:

  • Cheltenham Spa - Canol Caerdydd (05:37 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol.
  • Canol Caerdydd - Caerloyw (23:20 o ddydd Llun i ddydd Gwener). Gwasanaeth ychwanegol. 

Gwasanaethau Bws yn lle Trên: 

  • Radur - Merthyr Tudful / Aberdâr / Treherbert (o tua 19:30 tan 24ain Mawrth 2022).
  • Canol Caerdydd - Merthyr Tudful / Aberdâr / Treherbert (o tua 19:30 dydd Sul i ddydd Iau, yn dechrau 28ain Mawrth 2022).

 Bydd yr amserlenni newydd yn parhau tan 15 Mai 2022, pryd byddwn yn disgwyl ychwanegu gwasanaethau ychwanegol at amserlenni cyn rhoi llwybrau twristiaeth yr haf ar waith. 

Mae'r teclyn Gwirio Capasiti yn defnyddio data defnydd a gipiwyd yn ddienw ar drenau, sy'n gofyn am wythnos o ddata cyn y gall ragweld defnydd ar wasanaethau newydd neu ddiwygiedig. Felly, am wythnos gyntaf yr amserlenni newydd, gall rhai gwasanaethau ymddangos yn 'llwyd' gan na fydd unrhyw ddata ar gael yn ystod y cyfnod cychwynnol.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon