Newyddion

Transport-for-Wales-Complete-Next-Phase-On-South-Wales-Metro-January-2022

Mae gwaith adeiladu yn parhau ar Metro De Cymru

12 Ionawr 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gydag adeiladu Metro De Cymru a chafodd gwaith mawr ei wneud dros y Nadolig. 

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

O 24 Rhagfyr tan oriau mân y 7fed o Ionawr roedd y rheilffordd ar gau rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful ac Aberdâr.  Caniataodd y cau hwn i TrC a’i bartneriaid weithio bob awr o’r dydd ar waith seilwaith allweddol gan gynnwys cael gwared ar bont droed y Diafol, gosod dros 63,000 metr o gebl ffibr optig ar gyfer uwchraddio offer signalau a thros 100 o dyllau dros-dro a chymysgedd o sylfeini yn barod ar gyfer trydaneiddio'r llinell.

Mae'r trawsnewid Linellau Craidd y Cymoedd ar gyfer y Metro wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach rhwng Caerdydd a blaenau'r cymoedd.

Llwyddodd timau ar lawr gwlad hefyd i osod 150 metr o drac yn llwyddiannus gan gynnwys 5 panel switsio a chroesi. 

 

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC:

“Fe wnaethon ni gwblhau cyfnod cau arall yn ddiogel ac yn llwyddiannus ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd, sy’n golygu cam arall ymlaen yn y gwaith o gyflawni Metro De Cymru i bobl Cymru. 

“Roeddem yn gallu gwneud gwaith seilwaith allweddol er mwyn ein galluogi i drydaneiddio’r lein a’i pharatoi ar gyfer rhedeg trenau tram newydd sbon arni yn y blynyddoedd i ddod. 

“Bu ein timau a’n partneriaid yn gweithio’n barhaus dros wyliau’r Nadolig er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd oedd yn teithio. “Hoffwn ddiolch i’n timau a’n partneriaid am eu hymroddiad a’u gwaith caled mewn tywydd eithaf gwael a hefyd i’r cyhoedd sy’n teithio a’n cymdogion ar ochr y llinell am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon