Newyddion

Transport-for-Wales-Launch-Ticket-Purchasing-Facilities-In-Convenience-Stores

Mwy o ddewis i gwsmeriaid rheilffyrdd wrth i storfeydd cyfleustra ddechrau gwerthu tocynnau TrC

23 Ionawr 2022

O ddydd Llun 24 Ionawr 2022, bydd cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, o fewn ardal Metro De Cymru, yn gallu prynu tocynnau trên dethol ar gyfer teithiau lleol mewn nifer o siopau cyfleustra.

Dyma ddatganiad i’r wasg gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

Bydd y peilot sy'n cael ei lansio yn cynnwys siopau mewn 90 o leoliadau gwahanol a'i brif nod yw eu gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i gwsmeriaid brynu tocynnau. Bydd hefyd yn rhoi'r cyfle iddyn nhw brynu tocyn gydag arian parod, os nad oes staff yn eu gorsaf leol neu os nad oes peiriant hunanwasanaeth cerdyn ar gael yno.

TrC, gyda grym technoleg manwerthu SilverRail fydd y cwmni gweithredu trenau cyntaf yn y DU i bartneru â Payzone i wneud y broses o brynu tocynnau rheilffordd yn bosibl gyda dyfeisiau talu Payzone mewn siopau.

 

Dywedodd David O'Leary, Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid TrC:

“Mae hwn yn gynllun peilot cyffrous sy’n rhoi dewisiadau ychwanegol i gwsmeriaid ynghylch sut a ble i brynu eu tocynnau trên.  Dyma’r tro cyntaf yn y DU y bydd cwsmeriaid trenau’n gallu prynu eu tocynnau mewn siop gyfleustra leol.  Bydd hefyd yn rhoi dewis ychwanegol i gwsmeriaid ddefnyddio arian parod i brynu eu tocynnau, yn enwedig os nad oes gan eu gorsaf leol swyddfa docynnau neu dim ond peiriant hunanwasanaeth sy'n derbyn cardiau yn unig sydd ar gael yno.” 

 

Ychwanegodd Noel Goulty, Pennaeth Trafnidiaeth a Thocynnau Payzone:

“Hon yw'r bartneriaeth gyntaf o'i math erioed o ran tocynnau trên, gan wneud gwerthu tocynnau trên yn ganolog i gymunedau Cymru.

“Bydd y bartneriaeth strategol hon gyda SilverRail yn darparu system gwbl achrededig ar ran Trafnidiaeth Cymru, sy’n unigryw i Payzone ac sy’n caniatáu i deithwyr brynu tocynnau trên a phrynu manion yn y siop gornel ar yr un pryd!

“Rydym wedi ymrwymo i arloesi yn y sector hwn a bod y rhwydwaith o ddewis ar y stryd fawr y mae pobl yn ei ddefnyddio i brynu tocynnau gydag arian parod.  Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol gyffrous i Trafnidiaeth Cymru ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflawni eu strategaeth.”

 

I gloi, dywedodd David Pitt, Pennaeth SilverRail yn y DU:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r ateb i werthu tocynnau trên hwn, ateb sy’n torri tir newydd a hynny ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru a Payzone.  Bydd cyflwyno'r opsiwn i brynu tocynnau rheilffordd ar y stryd fawr yn y modd hwn yn sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl gan y chwyldro digidol.  Bydd hefyd yn gwneud y broses yn fwy cyfleus ac yn gwneud y broses o brynu tocynnau i’r cyhoedd hyd yn oed yn haws.

Credwn ei bod yn bwysig iawn bod manwerthu rheilffyrdd yn parhau i fod yn gynhwysol drwy ganiatáu i bob math o deithwyr - o'r rhai sy'n hyderus gyda thocynnau symudol i'r rhai sy'n llai medrus yn ddigidol - allu archebu teithiau trên gan ddefnyddio arian parod neu drwy ddulliau talu mwy modern."

 

Nodiadau i olygyddion

Mae Payzone yn eiddo i Swyddfa'r Post.

Mae'r defnydd o siopau cyfleustra lleol yn ychwanegol i brynu tocyn trên TrC:

  • Mewn swyddfeydd tocynnau
  • Ar-lein
  • Ar ein ap
  • Dros y ffôn

Gellir prynu tocynnau trên mewn siop gan gynnwys:

Math o docyn

Cyfyngiadau

Tocyn diwrnod unffordd unrhyw bryd

Dim ond ar gyfer un siwrnai allanol y gellir defnyddio tocyn.

Tocyn diwrnod dwyffordd unrhyw bryd

Dim ond ar gyfer un siwrnai allanol AC un siwrnai ddychwelyd y gellir defnyddio'r tocyn. Rhaid i'r daith ddwyffordd fod ar yr un dyddiad â'r daith allan.

Tocyn Diwrnod Grwpiau Bach Unffordd

Ar gael ar gyfer teithiau byr yn unig. Rhaid i'r grŵp wneud pob taith gyda'i gilydd gan na fydd y tocyn yn ddilys ar gyfer grwpiau anghyflawn. Ni ddylai nifer y teithwyr sy'n teithio fod yn fwy na'r nifer sydd wedi'i argraffu ar y tocyn. Nid all plant dros 5 oed deithio am ddim gyda'r tocyn hwn. Dim ond ar gyfer un siwrnai allanol AC un siwrnai ddychwelyd y gellir defnyddio'r tocyn.

Tocyn Diwrnod Grwpiau Bach Dwyffordd

Tocyn ar gyfer teithiau byr yn unig. Rhaid i'r grŵp wneud pob taith gyda'i gilydd gan na fydd y tocyn yn ddilys ar gyfer grwpiau anghyflawn. Ni ddylai nifer y teithwyr sy'n teithio fod yn fwy na'r nifer sydd wedi'i argraffu ar y tocyn. Nid all plant dros 5 oed deithio am ddim gyda'r tocyn hwn. Rhaid i'r daith ddwyffordd fod ar yr un dyddiad â'r daith allan.

Tocyn Advance Unffordd

Dim ond ar y dyddiad a'r amser a ddangosir ar y tocyn y caniateir teithio. Ni ellir ad-dalu'r tocynnau hyn. Rhaid cadw sedd gyda'r math hwn o docyn.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon