
Stagecoach Yn Ne Cymru Yn Buddsoddi Mewn Depo Newydd Yng Nghwmbrân
01 Medi 2022Ar 30 Mai, symudodd Stagecoach yn Ne Cymru i ddepo newydd sbon ar gyfer ei fysiau yng Nghwmbrân.
Bydd y safle newydd a gostiodd £7 miliwn yn gartref i dros 100 o fysiau; dros 200 o staff a fydd yn cynnwys gyrwyr bysiau a staff cynnal a chadw; yn ogystal â phrif swyddfa’r cwmni.
Bydd bysiau sy’n gweithredu o’r depo yn teithio dros ddwy filiwn o filltiroedd bob blwyddyn. Bydd gwasanaethau o’r depo yn mynd i ddinasoedd, trefi a phentrefi a fydd yn cynnwys y Fenni, Blaenafon, Cwmbrân, Pont-y-pŵl, Casnewydd a Chaerdydd.
Mae gan adran beirianneg y depo naw lôn newydd ar gyfer rhoi gwasanaeth i gerbydau, ac mae gan bob un o’r lonydd gyfarpar gwirio allyriadau; pibelli iro; lifftiau Hywema i godi bysiau er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw; ardal gwirio brêcs; ynghyd â’r cyfarpar diweddaraf ar gyfer cynnal a chadw cerbydau.
At hynny, mae gan y depo newydd gyfleuster golchi bysiau sydd â system ailgylchu dŵr; 10 cilfach ar gyfer gwefru cerbydau trydan; seilwaith ar gyfer cerbydau trydan yn y dyfodol; system wresogi glyfar; paneli solar; a tho glaswellt, caredig i’r amgylchedd, er mwyn casglu a storio dŵr glaw. Yn ogystal, mae’r depo wedi’i inswleiddio yn fwy helaeth na’r gofynion a argymhellir ac mae deunyddiau cynaliadwy a goleuadau Dextra effeithlon o ran ynni wedi’u gosod ym mhob rhan o’r cyfleuster.
Cafodd diwrnod agored swyddogol y depo ei gynnal ddydd Sadwrn, 27 Awst. Roedd cerddoriaeth, bwyd, artist balŵns, sesiynau paentio wyneb, stondinau hyrwyddo, stondin recriwtio, amrywiaeth o hen fysiau a bysiau mewn lliwiau arbennig, cyfleoedd i fynd o gwmpas y depo, a theithiau am ddim ar fws deulawr heb do o amgylch tref Cwmbrân i gyd yn rhan o’r diwrnod. Cododd Stagecoach bron £600 drwy werthu nwyddau a memorabilia. Bydd y cwmni’n cyfrannu swm sy’n cyfateb i’r arian a gasglwyd, a bydd cyfanswm o £1200 yn cael ei roi i Hosbis Plant Tŷ Hafan.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, Nigel Winter:
“Rydym yn falch o allu dathlu bod ein depo newydd yng Nghwmbrân wedi agor, a fydd yn darparu gwasanaethau bws ar draws Torfaen a’r cyffiniau am flynyddoedd lawer i ddod.
“Mae’r cyfleuster newydd wedi’i adeiladu yn unol â safonau amgylcheddol uchel ac mae’n darparu cyfleusterau gweithredu a chyfleusterau peirianneg gwell o lawer i’r staff.
“Hoffwn ddiolch i holl ffrindiau Stagecoach a helpodd i drefnu a chynnal diwrnod mor llwyddiannus.”
Ffynhonnell y wybodaeth: Stagecoach yn Ne Cymru