Newyddion

Arriva yn cynnig teithiau am ddim ar Sul y Cofio i filwyr sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a chadetiaid

Arriva yn cynnig teithiau am ddim ar Sul y Cofio i filwyr sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a chadetiaid

08 Tachwedd 2022

Mae Arriva yn cynnig teithiau am ddim ar fysiau i aelodau presennol a blaenorol o’r Lluoedd Arfog, a hynny ar ei wasanaethau ym mhob rhanbarth ddydd Sul 13 Tachwedd. 
 
Fel arwydd o barch ar Sul y Cofio, bydd milwyr sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog (milwyr parhaol a milwyr wrth gefn), cyn-filwyr a chadetiaid yn cael teithio am ddim ar wasanaethau Arriva drwy gydol y dydd. Pan fyddwch yn mynd ar y bws, dangoswch eich cerdyn adnabod gan y Lluoedd Arfog i’r gyrrwr, neu’ch cerdyn adnabod ar gyfer Cyn-filwr yn y Lluoedd Arfog, neu’ch Bathodyn Cyn-filwr a roddwyd i chi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Meddai Richard Hoare, Cyfarwyddwr Masnachol Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru: “Rydym yn falch o gynnig teithiau am ddim i aelodau’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a chadetiaid ar ein gwasanaethau ar Sul y Cofio.  

“Fel busnes, rydym yn falch o gefnogi’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae’n bosibl hefyd y bydd ein gyrwyr yn stopio eu bysiau er mwyn cymryd rhan yn y ddwy funud o dawelwch am 11am ddydd Gwener 11 Tachwedd a dydd Sul 13 Tachwedd, cyhyd â’i bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon iddynt wneud hynny.” 

Bydd amodau a thelerau’n berthnasol. I gael y manylion yn llawn, ewch i [Amodau a thelerau teithiau am ddim ar Ddydd y Cofio | Arriva Bus UK]. Bydd y gallu i deithio yn dibynnu ar argaeledd gwasanaethau, capasiti cerbydau a chyfyngiadau ar amserlenni.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Arriva Bus UK

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon