Newyddion

First Bus yn cynnig teithiau am ddim ar Ddydd y Cofio a Sul y Cofio

First Bus yn cynnig teithiau am ddim ar Ddydd y Cofio a Sul y Cofio

08 Tachwedd 2022

Mae First Bus yn cynnig teithiau am ddim ar bob gwasanaeth i filwyr sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cadetiaid a chyn-filwyr ar Ddydd y Cofio (dydd Gwener 11 Tachwedd) a Sul y Cofio (13 Tachwedd) er mwyn iddynt allu mynychu digwyddiadau coffáu. Mae’r cynnig yn cynnwys bysiau pob gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau Clipper pellter hir. 

Mae teithiau am ddim ar gael ar draws rhanbarth First Cymru, ar gyfer:

  • Aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n gwisgo gwisg filwrol neu fedalau
  • Aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n gallu dangos cerdyn neu fathodyn adnabod dilys
  • Cadetiaid sy’n gwisgo gwisg filwrol
  • Cyn-filwyr sy’n gwisgo medalau neu sy’n gallu dangos cerdyn neu fathodyn adnabod dilys, megis Bathodyn Cyn-filwr a roddwyd iddynt gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Meddai Doug Claringbold, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru, Gorllewin Lloegr a Chaerwrangon: “Mae Dydd y Cofio a Sul y Cofio yn gyfleoedd pwysig i bob un ohonom gofio am berthnasau, ffrindiau ac eraill sydd wedi colli eu bywyd mewn rhyfel, boed yn filwyr neu’n sifiliaid.  

“Mae llawer o’n gweithwyr wedi gwasanaethu yn y fyddin neu mae ganddynt ffrindiau a pherthnasau sy’n aelodau blaenorol neu bresennol o’r Lluoedd Arfog, felly mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn arbennig o arwyddocaol ar draws ein safleoedd. Rydym yn gobeithio y bydd teithiau am ddim ar ein gwasanaethau yn ei gwneud mor hawdd ag sy’n bosibl i gymaint o gyn-filwyr, aelodau’r Lluoedd Arfog a chadetiaid fynychu gwasanaethau a digwyddiadau coffáu yn y rhanbarth.  

“Mae’n bosibl hefyd y bydd ein gyrwyr yn stopio eu bysiau os yw’n ddiogel iddynt wneud hynny, er mwyn parchu’r ddwy funud o dawelwch am 11am ar Ddydd y Cofio a Sul y Cofio. Felly, hoffem ddiolch ymlaen llaw i’n cwsmeriaid am eu hamynedd.”

Ffynhonnell y wybodaeth: First Bus

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon