Teithiau am ddim i filwyr – Bws Caerdydd
08 Tachwedd 2022I nodi Dydd y Cofio a Sul y Cofio, mae Bws Caerdydd yn cynnig teithiau am ddim i’r sawl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol, fel arwydd o ddiolch am y gwasanaeth y mae’r milwyr a’r cyn-filwyr anhunanol hyn yn ei roi.
Bydd cwsmeriaid sy’n teithio ddydd Gwener 11 Tachwedd a dydd Sul 13 Tachwedd 2022 mewn gwisg filwrol, neu sy’n gallu darparu prawf o’u gwasanaeth yn y lluoedd arfog, yn gymwys i deithio am ddim ar wasanaethau Bws Caerdydd*.
Fel arwydd pellach o werthfawrogiad, am 11am ddydd Gwener 11 Tachwedd ac eto am 11am ddydd Sul 13 Tachwedd bydd gyrwyr yn stopio eu bysiau lle bo’n briodol ac yn aros am ddwy funud i gefnogi’r cyfnod o dawelwch cenedlaethol, er cof am y sawl a gollodd eu bywyd wrth frwydro dros eu gwlad.
Meddai Gareth Stevens, Cyfarwyddwr Masnachol Bws Caerdydd: “Mae gan lawer o’n cwsmeriaid a’n staff ffrindiau a pherthnasau sy’n filwyr ac yn gyn-filwyr, a fydd yn teithio i amryw ddigwyddiadau coffáu yr wythnos hon, ac rydym yn falch o allu eu cefnogi drwy gynnig teithiau am ddim iddynt.
“Roeddem am ddangos arwydd bach o’n diolch am eu blynyddoedd o wasanaeth, a chwarae rhan wrth gofio am y sawl a gollodd eu bywyd mewn brwydrau.”
Rhag i ni anghofio
Ffynhonnell y wybodaeth: Bws Caerdydd