Newyddion

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â Menywod mewn Trafnidiaeth i lansio Hyb Cymreig newydd a fydd yn grymuso menywod yn y diwydiant i wneud y gorau o’u potensial.

TrC yn Lansio Hyb Menywod mewn Trafnidiaeth

30 Tachwedd 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â Menywod mewn Trafnidiaeth i lansio Hyb Cymreig newydd a fydd yn grymuso menywod yn y diwydiant i wneud y gorau o’u potensial.

Datgelodd ffigurau diweddar bod y sector trafnidiaeth yn destun bwlch sylweddol rhwng y rhywiau gyda menywod yn cyfrif am ddim ond 20% o weithlu’r Diwydiant Trafnidiaeth a Chyfathrebu yng Nghymru.

Bydd yr Hyb Cymreig newydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’r gweithlu benywaidd presennol ymhellach a ffyrdd o annog mwy o fenywod i ymuno â'r diwydiant trwy helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau cymdeithasol.

Fel rhan o’r lansiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu ymchwil a gynhaliwyd gan Chwarae Teg i fapio ble mae menywod yn gweithio yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru ac i ddeall eu profiadau.

Dengys yr ymchwil bod menywod yn arbennig wedi'u tangynrychioli yn y grwpiau galwedigaethol a gysylltir yn draddodiadol â dynion, yn enwedig ymhlith peirianwyr, cynnal a chadw cerbydau a gyrwyr.  Bydd y bartneriaeth newydd nawr yn defnyddio'r data hwn i lywio eu gwaith a rhoi newid cadarnhaol ar waith yn y diwydiant trafnidiaeth ledled Cymru.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: “Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg.  Ar gyfartaledd mae tua 4,500 o swyddi gwag ym maes trafnidiaeth a logisteg yn cael eu hysbysebu ar-lein bob mis yng Nghymru.  Mae'n rhyfeddol felly mai dim ond 20% o'r gweithlu sy'n fenywod.  Dyna pam rwy’n falch ein bod wedi gallu noddi’r darn hwn o waith sy’n edrych ar y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu menywod sy’n ymuno â’r gweithlu a sut y gellir eu goresgyn.”

Ychwanegodd Jo Foxall, y Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn Trafnidiaeth Cymru ac Arweinydd Menywod mewn Trafnidiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn wych lansio Hwb Cymru Menywod mewn Trafnidiaeth a gweld cymaint o bobl yn mynychu ac yn cefnogi’r digwyddiad.

“Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn adeiladu gweithlu cynhwysol ac amrywiol ac rydym yn cydnabod bod angen i’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ddarparu ar gyfer y cyhoedd amrywiol a bod yn gynhwysol i bawb.

“Rwyf wedi gweithio yn y sector trafnidiaeth ers 18 mlynedd ac rwy’n angerddol iawn am annog mwy o fenywod i ymgymryd â rolau yn y sector trafnidiaeth, rolau rheng flaen traddodiadol gwrywaidd yn ogystal â mwy o swyddi arwain a gwneud penderfyniadau.” 

 

Ffynhonnell y wybodaeth: TrC

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon