Tarfu ar Wasanaethau TrC fis Rhagfyr a Ionawr – gwiriwch cyn teithio
09 Rhagfyr 2022Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu rhybuddio i baratoi ar gyfer tarfu ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn ystod Rhagfyr a Ionawr.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwydiannol ar 13-14, 16-17 a 24-27 Rhagfyr a 3-4 a 6-7 Ionawr.
Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na all Trafnidiaeth Cymru weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.
Gweithredu diwydiannol
13-14 a 16-17 Rhagfyr a 3-4 a 6-7 Ionawr – dim ond gwasanaethau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau fydd yn gallu gweithredu
Bydd mwyafrif y gwasanaethau ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn cael eu hatal. Fel ar ddiwrnodau streic blaenorol, bydd gwasanaeth bob awr yn rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd, Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful a Rhymni.
Ni all unrhyw wasanaethau eraill ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau weithredu ar ddiwrnodau streic.
Ar 15 Rhagfyr a 5 Ionawr, bydd amserlen lawn yn gweithredu ond bydd gwasanaethau’n dechrau’n hwyrach nag arfer – bydd y streiciau’n effeithio ar sifftiau signalau sifft nos, felly dim ond pan fydd signalwyr ar sifft cynnar yn cyrraedd ar ddyletswydd y gall gwasanaethau ddechrau. Am ragor o wybodaeth ewch i Gweithredu diwydiannol | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
24-27 Rhagfyr
Bydd gwasanaethau'n gorffen yn gynt na'r arfer ar 24 Rhagfyr ac yn dechrau'n hwyrach ar 27 Rhagfyr oherwydd y gweithredu diwydiannol. Nid fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg ar 25 a 26 Rhagfyr.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Mae cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn draddodiadol yn gyfnod prysur iawn i’r diwydiant rheilffyrdd ac eleni gyda chynifer o ddiwrnodau o weithredu diwydiannol yn cael eu cynnal drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae’n hanfodol bod teithwyr yn gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.
“Rydym yn parhau i gynghori pobl i deithio ar y trên ar ddiwrnodau streic dim ond os ydynt wedi gwirio’r cynlluniwr taith yn gyntaf. Er nad ydym yn rhan o’r gweithredu diwydiannol, dim ond tua 10% o’n gwasanaethau fydd yn rhedeg a bydd y mwyafrif o rwydwaith Cymru a’r Gororau heb unrhyw wasanaethau o gwbl.”
Gweithredwyr eraill - Great Western Railway
Bydd GWR yn gallu gweithredu i/o Gaerdydd ar 13/14/16 Rhagfyr a 3/4/6 Ionawr, ond nid ar ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr na 7 Ionawr.
Ni fydd gwasanaethau Great Western Railway yn rhedeg ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan.
Dydd Mawrth 27 tan ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr
Bydd trenau rhwng Llundain a De Cymru yn rhedeg ond yn cael eu dargyfeirio rhwng Swindon a Chasnewydd – gan ychwanegu tua 25 munud at hyd y daith.
- Bydd gwasanaeth bob awr yn gweithredu rhwng London Paddington ac Abertawe
- Bydd y trenau hyn hefyd yn galw yn Patchway
- Trefnir bysiau gwennol rhwng Patchway a Bristol Parkway
Ewch i Teithio dros y Nadolig | Great Western Railway (gwr.com) am fwy o wybodaeth
Gwaith peirianyddol arfaethedig
Gyda niferoedd is o deithwyr i’w disgwyl dros gyfnod y Nadolig, mae Trafnidiaeth Cymru yn achub ar y cyfle i gyflawni darnau mawr o waith seilwaith. Bydd y rheilffordd o Fae Caerdydd i Bontypridd, Merthyr Tudful a Threherbert, gan gynnwys Lein y Ddinas ar gau i drenau rhwng 24 Rhagfyr 2022 a 31 Rhagfyr 2022. Bydd hyn yn cael ei ddilyn yn agos gan gau'r rheilffyrdd rhwng Pontypridd i Ferthyr Tudful ac Aberdâr, bydd hyn yn digwydd rhwng 2 a 24 Ionawr 2023.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwasanaeth bws yn lle trên ar gael a dylai teithwyr wirio cyn teithio yn www.trc.cymru
Bydd Network Rail yn gwneud gwaith peirianyddol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin rhwng Rhagfyr 24 a 0400 ar 27 Rhagfyr, pan nad oes disgwyl i drenau gweithredu. Bwriedir gwneud rhagor o waith peirianyddol rhwng y ddau leoliad rhwng Rhagfyr 31 a Ionawr 2, gyda gwasanaeth bws yn lle trên.
Teithio ar fws
I gael trosolwg o drefniadau teithio’r Nadolig gan weithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ewch i dudalen ‘Gwybodaeth Teithio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd’ Traveline Cymru neu ffoniwch linell gwasanaeth cwsmeriaid Traveline Cymru - Rhadffôn 0800 464 0000.
Bydd llinell gymorth Traveline Cymru ar gael bob dydd dros gyfnod y Nadolig ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan, gyda llai o oriau ar Noswyl Nadolig a Dydd Calan.
Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd ar wasanaethau Traws Cymru, gallwch weld amserlenni'r Nadolig yma: https://traws.cymru/cy/christmas-2022-0
Cofiwch y bydd rhai cwmnïau bysiau ledled Cymru yn gweithredu amserlenni llai gan ddod a gwasanaethau i ben yn gynt ar Noswyl Nadolig, Nos Galan ac ar ddiwrnodau eraill dros gyfnod y Nadolig, gyda rhai gwasanaethau’n cau ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan yn ogystal â Dydd Calan.
Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch cyn teithio.
Ffynhonnell y wybodaeth: TrC