![Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig](/g_images/large/2022-12-20-15-06-31-cwsmeriaid-yn-cael-eu-hannog-i-deithio-ar-y-trn-dim-ond-os-oes-angen-noswyl-nadolig-12618-2-image1.jpg)
Cwsmeriaid yn cael eu hannog i deithio ar y trên dim ond os oes angen Noswyl Nadolig
20 Rhagfyr 2022Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau Noswyl Nadolig yn ofalus a dim ond teithio ar y trên os oes gwir angen gan y bydd gweithredu diwydiannol yn golygu y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dod i ben yn gynnar.
Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwdiannol ar 24-27 Rhagfyr fydd yn amharu’n sylweddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu na all Trafnidiaeth Cymru weithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail. Effeithir ar wasanaethau gweithredwyr eraill hefyd gan y gweithredu diwydiannol.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori cwsmeriaid i wneud teithiau hanfodol yn unig ar Noswyl Nadolig, ac i anelu at ddod a'u taith i ben erbyn hanner dydd gan y bydd gwasanaethau’n dirwyn i ben yn y prynhawn cyn dechrau gweithredu diwydiannol fin nos.
Ni fydd gwasanaethau TrC yn gweithredu Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan, gan ailddechrau ar 27 Rhagfyr – bydd gwasanaethau ar rai llwybrau’n dechrau yn hwyrach nag arfer y diwrnod hwnnw oherwydd y streic. Ni fydd gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd yn rhedeg ar Ddydd Calan chwaith.