Fflecsi Sir Benfro i ehangu
18 Ionawr 2023Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Benfro, mae’r parth fflecsi newydd yn disodli’r gwasanaeth bws 315 presennol a bydd yn cysylltu pentrefi a phentrefannau ym Mhenrhyn Dale ag Aberdaugleddau a Hwlffordd – gan integreiddio â llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
Bydd yr ehangu yn dechrau ddydd Llun 30 Ionawr a bydd yn cysylltu â’r gwasanaeth fflecsi hynod lwyddiannus yng ngogledd-orllewin Sir Benfro, sydd wedi gweld cynnydd yn y galw gan deithwyr ers ei sefydlu fis Medi 2020.
Gyda’i gilydd, bydd y ddau barth yn gorchuddio rhan fawr o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan gynnig dewis trafnidiaeth hygyrch, ecogyfeillgar i ymwelwyr â’r ardal i allu cyrraedd rhai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y sir, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cefnogi gweithrediad gwasanaeth fflecsi Bwcabus, sy’n cysylltu pentrefi gwledig canol Sir Benfro â Hwlffordd, Abergwaun a’i borthladd fferi, yn ogystal â pharthau gweithredu sy’n gwasanaethu rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mae fflecsi Sir Benfro yn wasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw nad oes ganddo lwybr ac amserlen sefydlog ond parth gweithredu sy'n galluogi i deithwyr gael eu codi a'u gollwng unrhyw le o fewn y parth fflecsi hwnnw.
Yn hytrach na bod teithwyr yn aros am y bws ger safle bws, gallant archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap fflecsi, neu ffonio 0300 234 0300.
Rhoddir gwybod i deithwyr ble i ddal y bws a phryd y bydd yn cyrraedd - bydd y man codi mor agos â phosibl at leoliad y teithiwr.
Dywedodd Andrew Sherrington, Pennaeth Rhwydwaith Bysiau a Datblygu Gwasanaethau: “Mae fflecsi wedi datblygu i fod yn ddewis trafnidiaeth gyhoeddus dibynadwy yng nghefn gwlad Sir Benfro a bydd ei ehangu nawr yn caniatáu i fwy o bobl ledled y sir gael mynediad ato ar gyfer teithiau bob dydd ac i wneud teithiau cysylltiol pwysig hefyd.
“Mae nifer y teithwyr yn parhau i dyfu ac ym mis Awst a mis Medi eleni, roedd y ffigurau fwy na dwbl yr hyn oeddent yr un pryd yn 2021.
“Gwyddom fod fflecsi yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cymunedau gwledig y mae’n eu gwasanaethu ar draws Sir Benfro, ac mae’n rhan hanfodol o ymrwymiad TrC i ddarparu sawl math o rwydwaith trafnidiaeth sy’n annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
Dywedodd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr Cyngor Sir Benfro: “Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn gan y Cyngor Sir er mwyn diogelu gwasanaeth i deithwyr yn y rhan wledig hon o’r sir a sicrhau eu bod yn parhau i gael mynediad i ardaloedd mwy poblog allweddol.
“Mae cynllun fflecsi Sir Benfro wedi bod yn hynod boblogaidd yng ngogledd y sir gyda thwristiaid a phobl leol; gobeithiwn weld y llwyddiant hwn yn parhau pan gyflwynir y parth newydd.”
Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Sir Penfro