
Bws â chelf stryd i anrhydeddu ein dinas
20 Ionawr 2023Mae Tee2Sugars, yr artist celf stryd enwog o Gymru, wedi paentio un o fysiau Newport Bus er mwyn anrhydeddu ffigwr a chyfnod yn hanes Casnewydd sy’n cynrychioli cynnydd, sef Arglwyddes Rhondda a mudiad y Siartwyr. Cafodd y bws ei lansio ddiwedd mis Rhagfyr, a bydd modd ei weld o amgylch y ddinas yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Cafodd Tee2Sugars, yr artist celf o Gymru, ei wahodd gan Newport Transport i baentio â chwistrell un o fysiau deulawr Newport Transport er mwyn dathlu celf a hanes lleol.
Dyma a ddywedodd Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport:
“Mae Newport Bus yn rhan annatod o’r gymuned yng Nghasnewydd, ac roeddem am hyrwyddo’r hyn sy’n dda am gymuned y ddinas. “Ein Bws Ni” yw’r bws, sy’n golygu ei fod yn wasanaeth bws i bawb.”
Meddai Tee2Sugars:
“Diben y prosiect hwn oedd clodfori pobl Casnewydd. Yr hyn sy’n gwneud Casnewydd yn wahanol i bob dinas arall yn y DU yw angerdd y bobl sy’n byw yma, nad oes ei debyg yn unman arall. Mae gweithio gyda Newport Bus i greu’r darn hwn o gelf wedi bod yn brofiad gwych.”
Gallwch weld fideo o’r gwaith paentio’n digwydd gan Tee ar YouTube.
“Roedd yn braf cyfuno Arglwyddes Rhondda a mudiad y Siartwyr mewn un darn o gelf … ar fws! Rwy’n dwlu ar y ffaith nad yw’r darn hwn o waith celf ar wal yn rhywle, a’i fod yn symud o amgylch y ddinas er mwyn i bawb allu ei weld, sy’n golygu bod y gwaith celf yn cael ei roi yn ôl i’r bobl! Diolch, Newport Bus, am y cyfle gwych hwn!”
Mae’r gwaith sydd ar un ochr i’r bws wedi’i ysbrydoli gan Margaret Haig Thomas, a gâi ei galw’n Arglwyddes Rhondda. Roedd yn ymgyrchydd, yn fenyw fusnes ac yn swffragét a chwaraeodd ran allweddol yn yr ymgyrch i wella hawliau menywod ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd yn un o sylfaenwyr a golygyddion y cylchgrawn ffeministaidd eiconig Time and Tide, ac Arglwyddes Rhondda yw’r rheswm pam y gall menywod heddiw fod yn aelodau o Dŷ’r Arglwyddi. Mae cerflun o Arglwyddes Rhondda yn un o brosiectau’r ymgyrch Monumental Welsh Women.
Mae ochr arall y bws wedi’i neilltuo i fudiad y Siartwyr, a gaiff ei bortreadu’n rymus gan ffotograff pwysig o’r orymdaith â ffaglau yn yr ŵyl fodern Newport Rising. Mudiad y Siartwyr oedd y mudiad torfol cyntaf i’w sbarduno gan y dosbarthiadau gweithiol, a’r cam cyntaf tuag at roi profiad gwleidyddol gwerthfawr i’r dosbarthiadau gweithiol o ymgyrchu, trefnu cyhoeddusrwydd a chynnal cyfarfodydd. Mae modd gweld casgliad o eitemau o bwys cenedlaethol sy’n ymwneud â mudiad y Siartwyr yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd (sydd ar gau oherwydd gwaith adnewyddu tan fis Gorffennaf 2023).
Meddai Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport, wedyn:
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn mynd yn fwyfwy pwysig wrth i bobl geisio mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau – gwnaethom ddewis darlunio dau fudiad cryf sy’n cynrychioli’r datblygiadau a wnaed yng Nghasnewydd i’n cymdeithas.
“Mae ein gwasanaeth wedi bod yn elfen gyson o’n cymuned ers dros ganrif, sydd wedi ymrwymo erioed i wasanaethu ei gymuned. Dyna pam yr ydym mor falch o’r darn hwn o waith, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl Casnewydd yn mwynhau ei weld yn teithio ar hyd ein strydoedd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.”
Ffynhonnell y wybodaeth: Newport Bus