Gwasanaeth Bws Newydd TrawsCymru ar gyfer Gogledd Cymru
21 Ionawr 2023Mae Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi gwasanaeth bws T8 TrawsCymru newydd fydd yn rhedeg bob awr rhwng Corwen, Rhuthun, Yr Wyddgrug a Chaer.
Gan ddechrau ar 23 Ionawr 2023, bydd y bws T8 newydd yn cynnig gwasanaethau amlach a chyflymach, gan wella cysylltedd yn y rhanbarth a galluogi teithwyr i deithio heb orfod newid bws.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a’r Gororau ac mae rhwydwaith TrawsCymru yn ehangu ac yn dod yn fwy cysylltiedig.
Fel rhan o'r gwelliannau hyn, bydd y T8 newydd yn cysylltu â'r T10 yng Nghorwen (Corwen - Betws y Coed - Bangor) a gyda mwy o deithiau ar y T3 (Wrecsam - Corwen - Bala - Dolgellau - Y Bermo), gan greu cyfnewidfa deithiol i gwsmeriaid.
Bydd y gwasanaeth bws newydd yn cael ei weithredu gan M&H Coaches. Mae ap a gwefan newydd TrawsCymru yn rhoi’r gallu i gwsmeriaid brynu tocynnau symudol, cael yr wybodaeth ddiweddaraf, tracio gwasanaethau a’r cyfle i weld arbedion carbon yn sgil teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae amserlenni newydd ar gael ar Traveline a gwefan TrawsCymru.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth:
“Bydd gwasanaeth bws bob awr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddefnyddwyr bysiau yn yr ardal ac yn helpu i annog mwy o bobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y gogledd ac mae datblygiadau’r dyfodol yn cael eu hystyried gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru dan arweiniad yr Arglwydd Burns.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Canolbarth, Gogledd a Chymru Wledig:
"Y T8 yw'r diweddaraf mewn nifer o welliannau i wasanaethau bysiau rhanbarthol ledled Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a chysylltedd ar gyfer trefi gwledig Cymru nad ydynt ar y rhwydwaith rheilffyrdd ac edrychwn ymlaen at yr holl fanteision a ddaw yn sgil y gwasanaeth T8 newydd."
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych:
"Mae'r T8 yn rhoi cyfle heb ei ail i wella'r cyfleoedd teithio sydd ar gael i drigolion de Sir Ddinbych. Yn y dyfodol, byddant yn elwa nid yn unig o wasanaethau amlach ond gwell gwasanaethau trwodd a chysylltiadau. Bydd hefyd yn galluogi'r rhai sy'n teithio o Loegr i fanteisio ar gyfleoedd hamdden ac i ymweld a Chymru."
Ffynhonnell y wybodaeth: TrawsCymru