Newyddion

Stagecoach yn cyhoeddi newidiadau i’w drefniadau o ran depos bysiau

Stagecoach yn cyhoeddi newidiadau i’w drefniadau o ran depos bysiau

29 Ionawr 2023

Mae Stagecoach wedi cadarnhau y bydd yn gwneud newidiadau i’r depos y mae rhai o’i wasanaethau yn y de yn gweithredu ohonynt, a hynny o ddydd Sul 5 Chwefror ymlaen. Ni fydd cwsmeriaid yn gweld eu gwasanaethau bws yn lleihau mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i’r newidiadau hyn o ran depos.  

  • Bydd yr holl wasanaethau sy’n gweithredu ar hyn o bryd o’r depo yng Nghoed-duon yn symud i’r depo newydd gwerth £7 miliwn yng Nghwmbrân a’r depo yng Nghaerffili
  • Ni fydd unrhyw wasanaethau bws i gwsmeriaid yn lleihau
  • Bydd y staff yn cael eu symud i ddepos eraill Stagecoach

Bydd depo Coed-duon yn cau a bydd y gwasanaethau’n gweithredu o’r depo newydd gwerth £7 miliwn yng Nghwmbrân, sydd â chapasiti ychwanegol, a’r depo yng Nghaerffili.  

O ganlyniad i’r newid, bydd gweithwyr sydd am aros gyda’r cwmni yn symud i ddepos eraill Stagecoach yn Ne Cymru, a bydd Stagecoach yn rhoi cymorth i’r staff wneud hynny. 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Roeddem yn falch o allu agor ein depo newydd sbon gwerth £7 miliwn yng Nghwmbrân y llynedd, sydd â chapasiti ychwanegol i barcio a chynnal a chadw ein bysiau. Rydym bellach wedi adolygu ein trefniadau o ran depos, ac yn ystod y cyfnod sydd i ddod bydd yr holl fysiau sy’n gweithredu ar hyn o bryd o’r depo yng Nghoed-duon yn cael eu symud i’r depo newydd mwy o faint yng Nghwmbrân neu’r depo yng Nghaerffili.

“Ni fydd unrhyw wasanaethau bws i gwsmeriaid yn lleihau o ganlyniad i hyn, a bydd pob un o’r gyrwyr a’r staff cynnal a chadw sydd am aros gyda Stagecoach yn symud i’n depos eraill yn y de gyda chymorth gan Stagecoach. 

“Hoffem ddiolch i’n pobl i gyd am eu help a’u cefnogaeth wrth i ni drosglwyddo ein gwasanaethau o’r depo yng Nghoed-duon.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon