Newyddion

Cyngor teithio ar gyfer gem Cymru v Iwerddon

Cyngor teithio ar gyfer gem Cymru v Iwerddon

31 Ionawr 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig gwasanaethau trên a coets i gefnogwyr rygbi ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn (4 Chwefror).

Yn dilyn llwyddiant y gwasanaeth coets y llynedd ar gyfer cyfres ryngwladol yr Hydref, bydd nifer o goetsys dwyffordd yn gweithredu i gyd-fynd ag amserlen reilffordd lawn.  Byddant yn rhedeg o Lanelli, Y Fenni, Cwmbrân, Caerffili a Phontypridd gyda phrisiau'n dechrau o £6 yn unig.

I archebu sedd ar un o goetsys dwyffordd TrC ewch i   Coetsys | Cymru v Iwerddon | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)   

Mae disgwyl hefyd i fwy na 25,000 o gefnogwyr rygbi deithio i mewn ac allan o Gaerdydd ar y trên ddydd Sadwrn, ac anogir cwsmeriaid i gynllunio a gwirio eu teithiau ymlaen llaw.

Dywedodd Adam Terry, Pennaeth Cynllunio Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu degau o filoedd o gefnogwyr rygbi ar ein gwasanaethau ar gyfer y cyntaf o ddwy gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

“Bydd pob trên sydd gennym yn cael ei ddefnyddio a byddwn yn cynnig mwy fyth o wasanaethau yn ôl ac ymlaen o Gaerdydd fel bod cymaint o le i deithwyr â phosibl.

“Mae gwasanaethau rheilffordd oriau brig cyn ac ar ôl y gêm yn debygol o fod yn brysur iawn, felly rydym yn annog teithwyr i ddefnyddio trenau cynharach a hwyrach, neu archebu lle ar un o goetsys TrC er mwyn sicrhau yn bendant bod gan gefnogwyr sedd yn ôl ac ymlaen o'r gêm.

“Bydd system giwio ar waith yng Nghaerdydd Canolog ar ôl y gêm a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r cwmnïau trenau eraill i gludo teithwyr adref mor gyflym ac mor ddiogel â phosib.”

Anogir teithwyr i ymgyfarwyddo â’r system giwio cyn teithio i’r gêm.

Bydd coetsys TrC yn gollwng ac yn gadael o Ffordd Tresillian yng nghanol dinas Caerdydd, taith gerdded fer o Stadiwm Principality.  Rhaid archebu tocynnau coets dwyffordd ymlaen llaw ac nid yw tocynnau trên presennol yn ddilys ar gyfer teithio ar y coetsys.  Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly y cyntaf i'r felin yw hi.

Dylai cefnogwyr rygbi a fydd yn teithio i brifddinas Cymru ddydd Gwener 3 Chwefror, y diwrnod cyn gêm Cymru v Iwerddon, fod yn ymwybodol y bydd gweithredu diwydiannol ar waith gan yrwyr trenau 15 o gwmnïau trenau eraill.

Nid yw staff TrC yn rhan o’r streiciau, ond mae ei wasanaethau’n debygol o fod yn brysurach nag arfer oherwydd ni fydd unrhyw wasanaethau Great Western Railway, West Midlands Railways, Avanti  na CrossCountry yn gweithredu ar y dydd Gwener.

Bydd gwasanaethau Great Western Railway yn gweithredu fel arfer ddydd Sadwrn 4 Chwefror a byddant unwaith eto yn defnyddio eu trenau trydan i ddarparu capasiti ychwanegol ar brif reilffordd De Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithredu diwydiannol ar ddydd Mercher 1 a dydd Gwener 3 Chwefror, ewch i   Streiciau Trên| Dyddiadau streic rheilffyrdd a gweithredu diwydiannol | TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon