
T19 i roi'r gorau i weithredu
06 Chwefror 2023Yn anffodus, mae Llew Jones Coaches wedi cyhoeddi na fyddan nhw bellach yn gweithredu gwasanaeth T19 TrawsCymru sy’n rhedeg rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno o ddydd Sadwrn 11 Chwefror 2023. Mewn datganiad, dywedodd y cwmni fod gostyngiad enfawr yn nifer y teithwyr ers y pandemig wedi gwneud. y gwasanaeth yn ariannol anhyfyw.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yr ardal i nodi a datblygu atebion i gefnogi teithwyr yn enwedig rhwng Blaenau Ffestiniog a Llanrwst.
Mae yna nifer o wasanaethau bws a thrên amgen yn Nyffryn Conwy a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Hoffem hefyd atgoffa teithwyr rhatach bod eu tocyn teithio yn gymwys i’w ddefnyddio ar reilffordd Dyffryn Conwy hefyd – Blaenau Ffestiniog i Landudno.
Concessionary Train Travel Senior Rail Tickets | TfW
Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth hon wrth i ragor o fanylion am unrhyw atebion arfaethedig gael eu sefydlu.