Newyddion

First Cymru yn llwyddo i ennill y tendr i weithredu llwybr T1 TrawsCymru

First Cymru yn llwyddo i ennill y tendr i weithredu llwybr T1 TrawsCymru

21 Chwefror 2023

Pleser gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw cyhoeddi mai First Cymru sydd wedi llwyddo i ennill y tendr i weithredu llwybr T1 TrawsCymru. 

Bydd First Cymru yn arddangos ei fflyd yn Sgwâr y Dref Caerfyrddin rhwng 9.30am ac 1pm ddydd Mawrth 21 Chwefror. Hefyd, byddant i’w gweld y diwrnod canlynol, dydd Mercher 22, yng Ngorsaf Fysiau Aberystwyth rhwng 10am a 1pm.  Ac yn olaf, yn Stryd Fawr Llanbedr Pont Steffan rhwng 2.30 a 4.30pm. 

Bydd y fflyd o fysiau trydan modern yn dechrau gwasanaethu o 26 Mawrth ymlaen ar lwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth a bydd canolbwynt gwefru newydd yn agor yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfleusterau newydd i yrwyr a bysiau, fel ei gilydd.  

Wedi’u cyflenwi gan Pelican, mae’r bysiau newydd wedi cael eu profi’n helaeth ar gyfer tirwedd Cymru a byddant yn gwella profiad y cwsmer gan gynnig seddi cyfforddus, aerdymheru, goleuadau darllen, byrddau a socedi i wefru ffonau symudol.

Mae hwn yn gam arall ymlaen i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan annog pobl i deithio’n fwy cynaliadwy a helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nodau ar gyfer allyriadau sero-net ac ymladd newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru. “Rydym yn edrych ymlaen at weld y bysiau trydan newydd yn dechrau ar eu gwaith, gan wella profiad y cwsmer ac annog mwy o bobl i adael y car gartref a dewis trafnidiaeth gyhoeddus.”  

“Mae gan fysiau rôl bwysig a chyffrous i'w chwarae yn symudiad parhaus Cymru tuag at deithio mwy cynaliadwy,” meddai Chris Hanson, Rheolwr Cyffredinol First Cymru.

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn i redeg llwybr T1 gan ddefnyddio’r fflyd drydan ragorol hon.  Mae pobl ledled Cymru yn defnyddio trafnidiaeth First Cymru bob dydd ar hyn o bryd i deithio yn nhrefi a siroedd De Cymru.  Ond, rydyn ni’n gwybod y bydd llawer mwy yn gwneud yr un peth wrth i fysiau esblygu i gynnig holl fanteision trydan i gwsmeriaid a’u cymunedau.” 

Caiff y fflyd newydd ei lansio’n swyddogol gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin ar 16 Mawrth.  Byddant yn dechrau gwasanaethu ar 26 Mawrth.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon