Newyddion

Cymeradwyo Cynllun Teithio AM DDIM ar Fysiau ledled y Fwrdeistref Sirol trwy gydol mis Mawrth

Cymeradwyo Cynllun Teithio AM DDIM ar Fysiau ledled y Fwrdeistref Sirol trwy gydol mis Mawrth

28 Chwefror 2023

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer cynllun teithio AM DDIM ar fysiau trwy gydol mis Mawrth 2023. Bydd hyn yn berthnasol i bob taith leol yn Rhondda Cynon Taf a bydd yn dod i rym ddydd Mercher (1 Mawrth).

Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 28 Chwefror roedd aelodau'r Cabinet wedi trafod adroddiad sy'n amlinellu'r cynnig. Mae'r cynnig yn berthnasol i bob cwmni bysiau lleol a phob taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth 2023 (waeth pa amser o'r dydd yw hi). 

Bydd y cynllun yma'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ar gyfer 2022/23 ac yn arbed cyfanswm o £500,000 i drigolion Rhondda Cynon Taf yn ystod y mis. Rhaid defnyddio'r cyllid erbyn diwedd mis Mawrth 2023 ac mae wedi ei glustnodi i ariannu mentrau sy'n lleihau costau byw i drigolion trwy roi mesurau sy'n mynd i'r afael ag effeithlonrwydd ynni, tlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd ar waith.

Mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau bws wedi lleihau ers pandemig Covid-19 ac mae'r gwasanaethau yng Nghymru wedi derbyn cymorth ariannol gan Gynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun yma wedi bod yn hanfodol i fynd i'r afael â'r diffyg refeniw sy'n cael ei gynhyrchu gan docynnau yn ogystal â chostau ychwanegol cynnal y gwasanaeth.

Nododd adroddiad i'r Cabinet ddydd Mawrth fod annog trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir yn rhan o'u trefniadau teithio dydd i ddydd yn rhan allweddol o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 ac ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae teithio ar fws yn hytrach na mewn cerbyd preifat yn opsiwn sy'n isel o ran carbon ond rhaid iddo fod yn fforddiadwy ac yn hawdd i'w ddefnyddio.

Bydd y cynllun teithio am ddim ar fysiau yn Rhondda Cynon Taf yn annog rhagor o bobl i fanteisio ar y gwasanaeth ac yn fuddiol i'r amgylchedd. Bydd y cynnig yma mewn grym o ddydd Mercher, 1 Mawrth hyd at ddydd Gwener, 31 Mawrth. Dydy'r cynnig ddim yn berthnasol i unrhyw daith sy'n dechrau neu'n gorffen tu hwnt i ffiniau'r Fwrdeistref Sirol. Bydd rhaid parhau i dalu'r pris arferol ar gyfer y rhain.

 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:

"Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer mentrau sy'n mynd i'r afael â chostau byw i drigolion ac i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Rwy'n falch ein bod ni wedi cymeradwyo'r cynllun teithio ar wasanaethau bws am ddim trwy gydol mis Mawrth 2023, a hoffwn i ddiolch i gwmnïau bysiau lleol am eu cydweithrediad.

"Gallai'r cynllun arwain at arbedion gwerth £500,000 i drigolion Rhondda Cynon Taf, a bydd yn hollbwysig i nifer o bobl wrth i'r argyfwng costau byw barhau i gael effaith ar gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol a gweddill y DU.

"Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau rhagor o arian gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2023/24 a 2024/25 ac os bydd y cynllun yma'n llwyddiannus, mae'n bosibl y bydd modd ystyried cyfleoedd tebyg yn y dyfodol.

"Mae annog trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'u harferion bob dydd yn hollbwysig i ddiogelu'r amgylchedd mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd - trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Rydyn ni wedi gosod nodau uchelgeisiol i ddod yn Gyngor carbon niwtral, ac yn awyddus i geisio sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn dod mor agos at fod yn niwtral o ran carbon ag sy'n bosibl. Bydd mentrau megis teithio ar wasanaethau bws am ddim yn fuddiol wrth weithio at y nodau yma.

"Yn ogystal â'r buddion amgylcheddol, bydd rhagor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod llai o dagfeydd ac felly bydd pob siwrnai yn cymryd llai o amser. Mae'r buddion eraill yn cynnwys rhagor o gyfleoedd rhyngweithio cymdeithasol i drigolion a gweithgarwch economaidd yn ein cymunedau. Bydd darparu trafnidiaeth am ddim hefyd yn fuddiol i'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd fforddio i ddefnyddio'r gwasanaeth."

 

Pam bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi cynnig ar gynllun teithio am ddim ar fysiau?

Diben y cynllun yw cynyddu nifer y trigolion sy'n manteisio ar wasanaethau bysiau. Bydd hyn yn cyfrannu at wneud y gwasanaethau lleol yn fwy cynaliadwy ac yn gwella ein hamgylchedd trwy annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir preifat. 

Rydyn ni hefyd yn rhagweld y gallai'r cynllun arwain at arbedion gwerth £500,000 i drigolion a lleddfu ychydig ar effaith yr argyfwng costau byw.

 

Pryd fydd y cynllun ar waith?

Bydd y cynllun ar waith o ddydd Mercher, 1 Mawrth hyd at ddydd Gwener, 31 Mawrth.

 

Sut mae'r cynllun yn cael ei ariannu?

Yn ddiweddar mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae'r amodau am ei dderbyn yn nodi bod rhaid gwario rhan ohono yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Os na fyddwn ni'n gwario rhan o'r cyllid eleni, bydd Llywodraeth y DU yn ei gymryd oddi wrthon ni. Bydd y cyllid yma'n ariannu'r cynllun yn llawn.

 

Pa deithiau fydd yn cael eu cynnig am ddim?

Rhondda Cynon Taf fydd yr unig Gyngor yng Nghymru sy'n cynnig y cynllun yma, felly bydd y cynllun yn cynnwys teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn y Fwrdeistref Sirol yn unig.  Fydd y cynllun ddim yn talu am deithiau sy'n croesi ffiniau'r sir.

Bydd angen i deithwyr sy'n teithio allan o Rondda Cynon Taf neu i mewn i'r Fwrdeistref Sirol o unrhyw awdurdod lleol arall brynu eu tocynnau arferol am y pris llawn priodol. Er enghraifft, byddai teithio ar fws sy’n mynd o Aberdâr i Borthcawl am ddim o Aberdâr i Gilfach Goch ond byddai rhaid i'r teithiwr dalu'r pris llawn petai'r daith yn gorffen ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae pob gwasanaeth bws yn rhan o'r cynllun, waeth pwy yw'r gweithredwr a does dim cyfyngiadau amser ar y cynllun, felly mae'r gwasanaethau cyntaf ac olaf yn gymwys.

 

Oes unrhyw gynlluniau ar y geill i gynnig y cynllun yma eto yn y dyfodol?

Cynllun peilot yn unig yw'r fenter ar hyn o bryd. Ar ôl i'r cynllun ddod i ben bydd y Cyngor yn asesu ei effaith ac yn gwrando ar adborth cyn ystyried gwneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol.  Gan ddibynnu ar ddeilliannau'r cynllun, mae'n bosibl y bydd modd cynnig cynllun tebyg ym mis Rhagfyr er mwyn rhoi hwb i'r ymgyrch siopa'n lleol dros gyfnod y Nadolig.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Rondda Cynon Taf

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon