Diweddariad am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru
13 Mawrth 2023Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn cynghori ei gwsmeriaid i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio yr wythnos hon gan y bydd prinder trenau a gweithredu diwydiannol yn effeithio ar rai gwasanaethau.
Y diweddaraf am drenau Dosbarth 175
Fel y cyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu nifer o’i drenau Dosbarth 175 o wasanaeth dros dro er mwyn caniatáu i wiriadau cynnal a chadw ychwanegol gael eu cynnal yn dilyn rhai problemau mecanyddol diweddar.
Er mai'r gobaith oedd y byddai'r unedau hyn wedi dychwelyd i wasanaeth erbyn dydd Gwener 10 Mawrth, mae gwiriadau diogelwch yn dal i fynd rhagddynt ac o ganlyniad mae tarfu yn debygol o barhau am weddill yr wythnos i ddod (w/d 13 Mawrth).
Mae tarfu yn debygol ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, nid yn unig ar y llwybrau hynny a wasanaethir gan y trenau Dosbarth 175, wrth i drenau gael eu symud er mwyn darparu capasiti ar y gwasanaethau lle mae’r galw mwyaf. Gofynnwn i deithwyr wirio cyn teithio. Mae hyn yn cynnwys y trên cyntaf ac olaf ac unrhyw gysylltiadau a'r fferi er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gael i deithio.
Dyma'r llwybrau y bydd y newidiadau yn effeithio arnynt:
- Casnewydd - Crosskeys – gwasanaeth wedi'i ganslo (dim bws yn lle trên).
- Caer-Lerpwl – gwasanaeth wedi ei ganslo (derbynnir tocyn Merseyrail).
- Lein Dyffryn Conwy – gwasanaeth wedi’i ganslo (bws yn lle trên).
- Lein Wrecsam-Bidston – gwasanaeth wedi’i ganslo gyda bws yn lle trên.
- Rheilffyrdd Gorllewin Cymru – rhai gwasanaethau i Ddoc Penfro (w/d 13/03) wedi’u canslo gyda bws yn lle trên ar waith.
- Holl wasanaethau Aberdaugleddau ac Abergwaun wedi'u canslo i'r gorllewin o Gaerfyrddin - bydd bws yn lle trên ar gael ar gyfer y mwyafrif o'r gwasanaethau hyn.
- Arfordir y Cambrian – gwasanaeth ben bore Y Bermo wedi’i ganslo, bydd bws yn lle trên yn weithredol.
- Llinellau Craidd y Cymoedd – llai o wasanaeth ar rai llwybrau.
Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC: “Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth bob amser ac mae’n bwysig bod yr holl wiriadau a’r gwaith trwsio angenrheidiol yn cael eu cyflawni ar bob un o’n trenau Dosbarth 175 cyn y byddant yn cael eu dychwelyd i wasanaeth unwaith yn rhagor.
“Mae’r trenau dosbarth 175 yn cael eu cynnal ar ein rhan gan CAF yn eu depo yng Nghaer. Tra bod gennym y prinder trenau hyn, rydym yn symud trenau o gwmpas y rhwydwaith er mwyn ceisio lleihau’r effaith a gaiff hyn ar ein llwybrau prysuraf.
“Mae’n ddrwg iawn gennym ni am yr anghyfleustra hwn i deithiau cwsmeriaid tra ein bod yn cyflawni’r gwaith trwsio hwn cyn gynted â phosibl.”
Gweithredu diwydiannol – Mawrth 16 a 18
Er bod Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi bod gweithredu diwydiannol Network Rail wedi’i ganslo, bydd 14 o gwmnïau trenau (ac eithrio TrC) yn parhau i gynnal gweithredu diwydiannol yn ôl y trefniant gwreiddiol ar 16 ac 18 Mawrth. Bydd rhai newidiadau i amserlen TrC o ganlyniad.
Bydd rhai gwasanaethau hefyd yn debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i'r ffaith y bydd cwtogi sylweddol iawn wedi bod ar amserlenni gweithredwyr eraill.
Ychwanegodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC: “Bydd 14 Cwmni Trên arall yn parhau i gynnal gweithredu diwydiannol yn ôl y trefniant gwreiddiol. Bydd hyn yn cynnwys staff gorsafoedd sy'n gyfrifol am rolau gweithredol allweddol megis anfon trenau. O ganlyniad, allwn ni ddim darparu rhai gwasanaethau ar adegau penodol i orsafoedd a reolir gan y gweithredwyr yr effeithir arnynt.”
Newidiadau i'r amserlen:
- Ni fydd gwasanaethau rhwng Caer a Lerpwl yn rhedeg.
- Ni fydd gwasanaethau yn galw yn Wilmslow.
- Bydd gwasanaethau sy'n galw yn Stockport yn rhai gollwng i lawr yn unig tuag at Fanceinion ac yn wasanaeth codi yn unig i gyfeiriad Crewe.
- Cyn 09:15 ac ar ôl 21:15 - bydd gwasanaethau rhwng De Cymru a Cheltenham yn dod i ben yn Lydney
- Cyn 07:00 ac ar ôl 19:00 - bydd gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Manceinion yn dod i ben yng Nghaer.
- Bydd gwasanaethau ar Reilffordd y Gororau yn dod i ben yn Amwythig.
- Bydd gwasanaethau i Birmingham International yn dod i ben yn Birmingham New Street.
Gŵyl Cheltenham
Os ydych yn mynd i Ŵyl Cheltenham, ceisiwch wneud trefniadau teithio amgen gan y bydd gwasanaethau i Cheltenham rhwng 0915 a 2115 yn gyfyngedig ac yn brysur. Bydd gorsaf Caerloyw ar gau trwy'r dydd.
Ffynhonnell y wybodaeth: TrC