Newyddion

Cwsmeriaid TrC yn cael eu cynghori i wirio cyn teithio y Pasg hwn

Cwsmeriaid TrC yn cael eu cynghori i wirio cyn teithio y Pasg hwn

05 Ebrill 2023

Mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw a gwirio cyn teithio y Pasg hwn gan fod rhai newidiadau i’r amserlen ar waith ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwneud gwaith uwchraddio seilwaith ar draws rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, gan arwain at fysiau yn lle trên ar rai llwybrau.

Bydd bysiau yn gwasanaethau yn lle trên rhwng:

  • Pontypridd a Chanol Caerdydd ddydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Ebrill.
  • Pontypridd a Threherbert yn hwyr ddydd Sul 9 tan ddydd Iau 13 Ebrill.
  • Ystrad Mynach a Rhymni hwyr ddydd Llun 10 tan ddydd Iau 13 Ebrill. 

Dyma ddechrau cyfres o gau llinellau ar draws rhwydwaith y Cymoedd dros yr wythnosau nesaf ar gyfer gwaith trawsnewid, gan gynnwys cau   y llinell   rhwng Pontypridd a Threherbert rhwng 30 Ebrill a dechrau 2024.  Drwy gydol mis Ebrill a mis Mai, fel rhan o’r gwaith o osod signalau newydd ar gyfer Metro De Cymru, bydd newidiadau sylweddol hefyd i wasanaethau sy’n effeithio ar reilffyrdd Caerdydd i Bontypridd, Merthyr ac Aberdâr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://trc.cymru/prosiectau/metro/newidiadau-gwasanaeth    

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynghori cwsmeriaid ledled rhannau eraill o Gymru a’r Gororau y gallai gwasanaethau fod yn brysur iawn, gydag amserlen lai ar waith ar lwybrau eraill.  Mae hyn oherwydd gwaith peirianyddol a   chynnal a chadw parhaus   ar y fflyd o drenau Dosbarth 175.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau Trafnidiaeth Cymru: “Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd parhaus tra bod y gwaith trawsnewid hanfodol yn digwydd ar reilffyrdd y Cymoedd ac wrth i ni barhau i weithio i ddatrys y problemau gyda’n trenau Dosbarth 175.

“Oherwydd gwaith gwirio brys yn cael ei wneud ar ein trenau Dosbarth 175 ynghyd ac atgyweiriadau i'r injans, mae gennym brinder cerbydau dros dro ar draws y rhwydwaith.  Golyga hyn ein bod wedi gorfod ailddosbarthu cerbydau i effeithio ar y nifer lleiaf posibl o deithwyr, gan arwain at wasanaeth bws yn lle trên ar rai llwybrau. 

“Gan fod y trenau dosbarth 175 yn rhan o raglen atgyweirio dros y pythefnos nesaf, dylai’r prinder cerbydau leddfu, a gellir adfer y gwasanaeth sydd wedi’i amserlennu.”

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ailddechrau gwasanaethau rheilffordd ar Lein y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston o ganlyniad i drenau batri-hybrid Dosbarth 230 ddechrau gwasanaethu ddydd Llun 3 Ebrill a heddiw, fe ailddechreuodd y gwasanaethau ar y lein rhwng Caer a Lerpwl.  Bydd TrC yn ceisio ail-ddechrau’r gwasanaethau ar lein Dyffryn Conwy o ddydd Sadwrn 8 Ebrill pan fydd y trenau Dosbarth 197 newydd sbon yn dechrau ar eu gwaith.

Anogir teithwyr rheilffordd sy'n defnyddio gwasanaethau yn Nyffryn Conwy a Sir Benfro i ddefnyddio'r gwasanaeth fflecsi poblogaidd i ymweld â rhai o leoliadau twristaidd enwocaf Cymru.

Mae'r ymgyrch ' o orsaf i leoliad  ' yn manylu ar sut i gyrraedd cyrchfannau megis Tyddewi (Sir Benfro) neu Betws-y-Coed drwy drefnu tocyn bws fflecsi.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Croeso Cymru fel rhan o’u hymgyrch Blwyddyn y Llwybrau, gan amlygu llwybrau cerdded gwych ledled Cymru y gellir eu cyrraedd o orsaf reilffordd leol.  Gallwch ddarganfod mwy am ' o’r rheilffordd i’r llwybr'  yma.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon