Newyddion

Gostyngiad o 50% i deithwyr ar wasanaethau TrC yn ystod y cyfnod o drawsnewid Lein Treherbert

Gostyngiad o 50% i deithwyr ar wasanaethau TrC yn ystod y cyfnod o drawsnewid Lein Treherbert

18 Ebrill 2023

Gall trigolion sy’n byw rhwng gorsafoedd trenau Trehafod a Threherbert gael tocyn sy’n cynnig gostyngiad o 50% oddi ar gost y tocyn ar lein Treherbert ar gyfer wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, tra bydd y rhan fawr o Fetro De Cymru yn cael ei hadeiladu. 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen â’i waith yn adeiladu Metro De Cymru ac o 29 Ebrill 2023 tan Chwefror 2024, bydd y lein ar gau rhwng Pontypridd a Threherbert fel rhan o Drawsnewid Lein Treherbert.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwasanaeth bws yn lle trên yn darparu cysylltiadau teithio hanfodol a gall pob cwsmer sy’n byw rhwng Treherbert a Threhafod gasglu neu ymgeisio am Docyn arbennig Trên Rhondda.  Bydd y tocyn yn rhoi gostyngiad o 50% oddi ar gost tocyn i deithio ar y lein hon yn ystod y cyfnod hwn o darfu. 

Am wybodaeth ar sut i gael Tocyn Trên Rhondda ewch ar-lein i   Tocyn Trên Rhondda | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru).

Nid yw’r tocyn trên yn ddilys ac ni ellir ei ddefnyddio nes 29 Ebrill 2023.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi lansio dwy ymgyrch docynnau eraill ar gyfer pob cwsmer rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.  Mae'r tocyn Multiflex yn cynnig 12 tocyn am bris 6 ac mae gostyngiad o 50% ar gael ar gyfer tocynnau advanced ar gyfer teithiau dros 50 milltir.  Lansiwyd y ddau gynnig heddiw ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan TrC. 

Dywedodd Marie Daly, Prif Swyddog Cwsmeriaid a Diwylliant: “Rydym yn symud ymlaen yn barhaus gyda Metro De Cymru a thra ei fod yn cael ei adeiladu, rydym yn gorfod cau rhannau o’r rheilffordd. 

“Mae’r gwaith ar reilffordd Treherbert yn un o’n rhaglenni gwaith mwyaf hyd yma a bydd yn golygu cau'r lein am gyfnod o 10 mis.  

“Gan ein bod yn deall y bydd hyn yn effeithio ar ein cwsmeriaid rydym yn cynnig tocyn trên i drigolion sy'n byw rhwng Treherbert a Threhafod sy'n rhoi gostyngiad o 50% ar gost tocyn ar reilffordd Treherbert.  Caiff y ddau gynnig eu lansio heddiw ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan TrC.  

“Rydym yn ymddiheuro i’n cwsmeriaid am unrhyw anghyfleustra, ond unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau a Metro De Cymru wedi'i gyflawni, byddwn yn gweld  trafnidiaeth yn Ne Ddwyrain Cymru yn cael ei thrawsnewid gan gynnig gwasanaethau cyrraedd a mynd ar drenau-tram newydd sbon fydd a mwy o le, gwasanaethau amlach a gwyrddach.

“Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.”  

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon