Newyddion

Bysiau hydrogen yn cael eu treialu yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe

Bysiau hydrogen yn cael eu treialu yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe

31 Mai 2023

Mae'r gweithredwr bysiau Trafnidiaeth Cymru a'r gweithredwr cerbydau hurio preifat Hyppo Hydrogen Solutions yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth i'r cymunedau gan ddefnyddio ‘hydrogen gwyrdd’ a gaiff ei gynhyrchu'n lleol gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy a dŵr lleol.

Caiff y fenter ei chynnal gan gonsortiwm yn y sector preifat sy'n ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd. Mae'r bws trydan H2 City Gold sy'n rhedeg ar hydrogen yn cael ei ddarparu gan Caetano Bus UK, ac mae system ail-lenwi â thanwydd HyQube yn cael ei darparu gan Fuel Cell Systems. 

Caiff y tanwydd hydrogen ei gynhyrchu a'i gyflenwi gan y datblygwr hydrogen gwyrdd Protium, o'i safle a gomisiynwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru ym Mharc Ynni Baglan.

Mae myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn teithio ar y bws yn ddiweddar fel rhan o ddarpariaeth Parcio a Theithio'r Brifysgol.  Maent wedi cael cyfle i fwynhau taith dawel ac esmwyth i'w neuadd arholiadau, gydag aer wedi'i hidlo a dim mygdarth.

Dywedodd y Cyngh. Jeremy Hurley, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Rydym yn falch o gefnogi'r treialon hyn gan fod defnyddio hydrogen yn rhan bwysig iawn o strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy'r cyngor.

“Mae bysiau sy'n rhedeg ar hydrogen yn cynnig ffordd ymarferol i gymunedau ddatgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus a gwella ansawdd aer ar unwaith. Mae'r treialon hyn yn newyddion gwych i'n bwrdeistref sirol a gweddill y rhanbarth oherwydd gallent arwain y ffordd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus lanach.”

Dywedodd Jayne Cornellius o dîm cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe:

“Mae datgarboneiddio trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau unigol a chyfunol o ran carbon sero net.”

Bydd y treial bysiau yn parhau ar y llwybr arholiadau a bydd llwybr ychwanegol yn cael ei ychwanegu rhwng Gorsaf Fysiau Castell-nedd a Phontardawe. Cafodd llwybr Castell-nedd ei ddewis er mwyn gweld sut y bydd y bws yn perfformio ar riwiau hir – her i fysiau sy'n rhedeg ar fatri a ffordd wych o arddangos manteision cerbydau hydrogen.  

Hyppo Hydrogen Solutions yw'r gweithredwr cerbydau hurio preifat cyntaf yng Nghymru sy'n defnyddio ceir cell danwydd hydrogen i deithwyr, fel y Toyota Mirai a'r Hyundai Nexo. 

Dywedodd Bev Fowles, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae'n wych gallu profi technolegau newydd fel bws City Gold Caetano mewn sefyllfaoedd go iawn.  Rwy'n hyderus y bydd hydrogen yn ein helpu i sicrhau system trafnidiaeth gyhoeddus sero net yn Ne Cymru.”

Ychwanegodd Chris Foxall, sef Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hyppo Hydrogen: “Cafodd y gell danwydd ei dyfeisio gan Syr William Grove, a oedd yn byw ym Mae Abertawe, ac felly mae'n lle addas i ddechrau busnes gwasanaethau hydrogen.  Mae Hyppo yn gobeithio ehangu ei weithrediadau y tu hwnt i'r treial, gan ddatblygu ecosystem hydrogen leol a fydd yn helpu i ddatgarboneiddio cymunedau a chreu swyddi lleol.”

Mae Fuel Cell Systems yn adeiladu ar dreialon llwyddiannus yn Aberdaugleddau lle y bu'n cefnogi Cyngor Sir Penfro a phrosiect Teyrnas Ynni Aberdaugleddau. Gwnaeth y cwmni hefyd gyfraniad hanfodol at ddylunio cyfleuster cynhyrchu hydrogen Pioneer ym Maglan a ddatblygwyd gan Protium, ac mae'n gweld cyfleoedd mawr i agor safleoedd cynhyrchu ac ail-lenwi â thanwydd ychwanegol yn y rhanbarth.

Mae'r treialon ar waith cyn cynhadledd Hydrogen Porth y Gorllewin a gynhelir yn y Celtic Manor ar 9 Mehefin.  Bydd y bysiau a'r ceir yn cael eu harddangos yn y digwyddiad a chaiff adborth o'r treialon ei rannu â'r cynadleddwyr, a fydd yn cynnwys yr holl awdurdodau lleol yn rhanbarth Porth y Gorllewin.

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon