Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi.
05 Medi 2023Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi.
Bydd y digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang yn dod i ben yng nghanol tref Caerffili yn dilyn 8 cam dwys o rasio ledled y Deyrnas Unedig. Gyda'r cyffro'n cael ei ddarlledu ar deledu byw (ITV4) - bydd y digwyddiad yn arddangos Caerffili ar lwyfan y byd wrth i'r beicwyr ddod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol drwy Nelson, pasio trwy Lanbradach a chwblhau dwy lap o fynydd Caerffili cyn croesi'r llinell derfyn o flaen y castell eiconig.
Dyma'r manylion llawn (gan gynnwys manylion am gau ffyrdd) i alluogi trigolion i gynllunio ymlaen llaw.
Bydd beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, yn mynd i'r dde ar y gylchfan i ymuno â'r A472 (Heol Pontypridd) tuag at Nelson.
Amserau yn fras:
- Beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, Nelson - car arwain yn cyrraedd tua 14:26. Beicwyr yn cyrraedd tua 14:41.
- Beicwyr yn pasio trwy Lanbradach - car arwain yn cyrraedd 14:39. Beicwyr yn cyrraedd tua 14:54.
- Beicwyr yn pasio cylchfan Pwll-y-pant - car arwain yn cyrraedd 14:44. Beicwyr yn cyrraedd tua 14:59.
Mae'r system cau ffyrdd dreigl yn dod i ben yn y man cyfarfod rhwng Heol Pontygwindy a chyffordd Castle Street.
Bydd angen cau’r ffyrdd am gyfnod hirach yng nghanol tref Caerffili a'r ardal gyfagos er mwyn hwyluso'r lapiau ychwanegol o fynydd Caerffili ac i hwyluso'r llinell derfyn a’r nenbont. Bydd hon wedi'i lleoli ar Cardiff Road ger maes parcio'r Twyn.
Cau ffyrdd dros dro canol dref Caerffili (dydd Sul 10 Medi):
Cardiff Road: 04:45 – 20:00
Castle Street: 14:00 – 17:00
Nantgarw Road: 14:00 – 16:00*
Crescent Road – Park Lane: 14:30 – 16:45*
Mountain Road – Heol Cae Barrau: 14:00 – 15:30*
*Yn dibynnu ar amser gorffen y ras*
Yn ogystal, caiff traffig unffordd fynd ar hyd Bartlett Street, Caerffili, i gyfeiriad y dwyrain rhwng Cardiff Road a White Street rhwng 04:00 a 20:00.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd trigolion yn cael gwybod am yr aflonyddwch posibl drwy ein brif sianeli cyfathrebu megis y cyfryngau cymdeithasol a'n system darparu e-byst. Bydd trefnwyr y digwyddiad hefyd yn dosbarthu taflenni gan gynnwys y dogfennau sydd ynghlwm i roi gwybodaeth am y ffyrdd a fydd yn cael eu heffeithio a’r amserau.
Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili