Daliwch y bws gyda 50% oddi ar docynnau detholedig TrawsCymru fis Medi yma
17 Medi 2023I ddathlu Mis Dal y Bws y mis Medi hwn, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn hwyluso teithio cynaliadwy ar fysiau drwy gynnig 50% oddi ar bryniannau ap TrawsCymru am y tro cyntaf ar rai llwybrau TrawsCymru.
Gall defnyddwyr newydd ap TrawsCymru dderbyn prisiau hanner pris am docynnau dethol ar y gwasanaethau T1, T1C, T2, T3, T8 a T10. Bydd angen i gwsmeriaid nodi'r cod CBM23 wrth brynu eu tocynnau i dderbyn y cynnig.
Gellir actifadu’r tocynnau hanner pris unrhyw bryd o fewn 12 mis o’u prynu a’u defnyddio i deithio i leoliadau gwych gan gynnwys Aberystwyth, Abermaw, Bangor, Betws-y-Coed, Caerdydd, Caer a Wrecsam.
Bydd angen prynu tocynnau erbyn 30 Medi ond gellir eu defnyddio unrhyw bryd o fewn 12 mis i'w prynu.
Rydym yn falch o fod yn cefnogi Mis Dal y Bws – ymgyrch ledled y DU a arweinir gan Bus Users UK sy’n helpu i hyrwyddo’r bws fel ffordd iach, gynhwysol a chynaliadwy o deithio.
Dywedodd Mark Jacobs, Rheolwr Contractau a Pherfformiad TrawsCymru: “Rwy’n falch ein bod yn gallu cynnig gostyngiad hanner pris ar docynnau i gwsmeriaid newydd sy’n defnyddio ap TrawsCymru, i gefnogi Mis Dal y Bws y mis Medi hwn.
“Mae gwasanaethau bysiau TrawsCymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau ledled Cymru, tra hefyd yn ffordd gost-effeithiol, cynaliadwy a hygyrch o fynd o gwmpas.
“Mae nifer y teithwyr yn parhau i godi ar draws rhwydwaith TrawsCymru, yn enwedig ar lwybr T1, lle bu i ni basio 100,000 o deithwyr yn ddiweddar ers i ni gyflwyno fflyd newydd o fysiau trydan ym mis Mawrth.
“Rwy’n gobeithio y bydd y cynnig hwn yn annog mwy o bobl yng Nghymru i ystyried cynnwys bysiau yn eu dewisiadau teithio yn y dyfodol.”
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld beth arall rydyn ni'n ei wneud ar gyfer Mis Dal y Bws.
Ffynhonnell y wybodaeth:TrC