
Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref
24 Medi 2023Gyda Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 1 Hydref, mae disgwyl i’r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.
Ddydd Mercher 27 Medi, bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn y Ganolfan Ddinesig i osod a datgymalu pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.
O 5am ddydd Mercher, 27 Medi tan hanner nos ddydd Llun, 2 Hydref bydd Heol y Coleg ar gau o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Rhodfa’r Brenin Edward VII (bydd mynediad i gerbydau ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9am ddydd Sadwrn, 30 Medi)
O 5am ddydd Iau 28 Medi tan ychydig cyn hanner ddydd Llun 2 Hydref bydd Rhodfa’r Brenin Edward VII ar gau i’r gyffordd â Boulevard de Nantes ac i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau o 5am ddydd Gwener 29 Medi tan ychydig cyn hanner nos ar 1 Hydref:
- Rhodfa’r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o’r gyffordd â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
- Rhodfa’r Amgueddfa o’r pen caeedig â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd
- Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas y Parc i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa
- Heol Neuadd y Ddinas o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Heol y Gogledd.
- Caniateir mynediad ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9.00am ddydd Sadwrn 5 Hydref. Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu o Heol y Gogledd pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a hanner dydd ddydd Sul 1 Hydref:
- Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
- Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin,
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
- Heol y Dug a Stryd y Castell
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 6am a 10.45am ddydd Sul 1 Hydref:
- Heol y Gogledd o’r gyffordd â Heol Colum i’r gyffordd â Boulevard de Nantes (Ceir mynediad i’r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett, tua’r gogledd ar Heol y Gogledd).
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm ddydd Sul 1 Hydref:
- Heol Colum
- Plas y Parc o’r gyffordd â Maes St Andrew i’r gyffordd â Heol Colum.
Trefniadau mynediad tra bo’r mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad.
Ceir mynediad i Beatty Avenue o’r gyffordd â Heol Ogleddol y Llyn yn unig (gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)
Bydd mynediad i ac o Sgwâr y Frenhines Ann yn cael ei reoli drwy Heol y Gogledd / Heol Corbett.
Lady Mary Road o’r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn.
Ddydd Sul 1 Hydref, bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau yn eu tro o 8.30am tan 3.10pm i hwyluso’r llwybr:
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville
- Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
- Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas
- Cei Britannia, Stryd Pen y Lanfa, Plas Bute, Rhodfa Lloyd George
- Stryd Herbert, Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor
- Stryd Adam, Plas Fitzalan yn mynd ar draws Heol Casnewydd
- Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
- Heol Marlborough,Heol Blenheim, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
- Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn – bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy’r brif fynedfa.
- Heol y Dderwen Deg, Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa
Os caiff y llwybr ei gwblhau’n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.
Bydd y gât bysiau ar Heol y Porth yn cael ei hatal drwy gydol y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar 1 Hydref.