Peidiwch ag anghofio gwirio eich fyngherdynteithio
26 Hydref 2023Os ydych chi’n defnyddio ap TrawsCymu i brynu’ch tocynnau a bod gennych chi fy ngherdyn teithio, o ddydd Llun 30 Hydref bydd angen i chi wirio’ch tocyn teithio yn yr ap i brofi eich bod yn gymwys i brynu tocynnau disgownt ‘fy ngherdyn teithio16-21’.
Beth yw fyngherdynteithio (MTP)
Mae fyngherdynteithio yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu tocynnau bws am bris gostyngol i bobl ifanc. Mae’n darparu gostyngiad o tua 1/3 oddi ar bris tocyn bws i bobl yng Nghymru rhwng 16 a 21 oed.
Gallwch chi ddefnyddio fyngherdynteithio ar unrhyw adeg o’r dydd ac ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos y mae’r gwasanaethau’n gweithredu, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Does dim cyfyngiad ar y math o daith rydych chi’n ei gwneud pan fyddwch chi’n defnyddio fyngherdynteithio. Gall eich taith fod ar gyfer yr ysgol neu’r coleg, ymweld â ffrindiau a hamdden.
Sut ydw i’n dilysu fy ngherdyn?
Ar ôl i chi gael eich fyngherdynteithio, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ap TrawsCymru, neu greu un os nad ydych chi wedi defnyddio’r ap yn barod, yna dilyn y camau isod. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddilysu eich cerdyn oherwydd bydd yn aros yn gysylltiedig â’ch cyfrif nes iddo ddod i ben ar eich pen-blwydd yn 22 oed.
- Prynwch ‘docyn fyngherdynteithio 16 – 21’ ar yr ap
- Cliciwch ‘Dilysu’
- Llwytho llun* ohonoch chi eich hun i fyny – bydd hunlun yn iawn
- Llwytho llun o’ch fyngherdynteithio i fyny
- Cadwch lygad ar eich e-bost. Byddwch chi’n cael e-bost pan fydd eich cerdyn wedi cael ei ddilysu.
*Lluniau: Yn eich llun, bydd angen i chi fod yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth at y camera. Rhaid i’ch llun fod yn glir ac mewn ffocws a heb ei newid / heb ei hidlo. Rydym ni’n defnyddio eich llun i ddilysu eich ID ac yn ei ddangos ar eich tocyn er mwyn i’r gyrrwr allu ei ddilysu. Fyddwch chi ddim yn gallu newid eich llun ar ôl iddo gael ei ddilysu.
Faint o amser y bydd yn ei gymryd i ddilysu fy ngherdyn?
Gall y broses ddilysu gymryd hyd at 48 awr ond mae’n aml yn llawer cyflymach na hynny. Gallwch chi barhau i ddefnyddio eich fyngherdynteithio i brynu tocynnau ar y bws gan y gyrrwr am bris gostyngol tra mae eich tocyn yn cael ei ddilysu.
Ffynhonnell y wybodaeth: TrC