Newyddion

Cau llwybrau TrC oherwydd Storm Ciaran

Cau llwybrau TrC oherwydd Storm Ciaran

01 Tachwedd 2023

Mae teithwyr yn cael eu hannog i wirio am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio gan y bydd nifer o lwybrau ar gau yfory (2 Tachwedd) oherwydd effaith Storm Ciaran.

Ni fydd unrhyw wasanaethau yn rhedeg ar linell Calon Cymru na llinell Dyffryn Conwy ddydd Iau 2 Tachwedd.

Ar lein y Cambrian, bydd amserlen ddiwygiedig ar waith a bydd gwasanaethau bws yn lle trên yn rhedeg rhwng Aberystwyth a Machynlleth a’r gwasanaethau trên rhwng Machynlleth a'r Amwythig yn rhedeg pob dwy awr yn hytrach na phob awr.

Nid fydd unrhyw wasanaethau bws yn lle trên ar gael ar linell Calon Cymru ac fe gynghorir teithwyr i beidio â theithio ar y llwybr hwn.  Bydd gwasanaethau bws y lle trên yn weithredol ar linell Dyffryn Conwy ond dylai pob teithiwr wirio cyn teithio gan fod perygl o lifogydd ar y ffyrdd.

Ni fydd gwasanaethau ar linellau Calon Cymru a Dyffryn Conwy yn ailagor tan ddiwedd fore Gwener ar y cynharaf, gan y bydd angen cwblhau gwiriadau diogelwch cyn y gall gwasanaethau teithwyr ailddechrau.

Bydd cyfyngiadau cyflymder hefyd ar waith ar sawl llwybr ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau o ganlyniad i'r gwyntoedd eithafol a'r glaw a ragwelir, sy'n golygu y gall teithiau gymryd mwy o amser na'r arfer ac efallai y gwneir newidiadau ar fyr rybudd neu bydd gwasanaethau yn cael eu canslo.

Gellir defnyddio tocynnau ddydd Iau 2 Tachwedd ar ddydd Gwener 3 Tachwedd a bydd tocynnau cwmnïau trenau eraill yn cael eu derbyn hefyd.  Dylai teithwyr ymweld â trc.cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Ffynhonnell y wybodaeth:TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon