Newyddion

Cyhoeddi newidiadau i wasanaethau T2 a T3 TrawsCymru

Cyhoeddi newidiadau i wasanaethau T2 a T3 TrawsCymru

02 Tachwedd 2023

Mae amserlenni newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau T2 a T3 TrawsCymru wedi cael eu cyhoeddi gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel rhan o gyfres o newidiadau i’r ddau wasanaeth sydd â’r nod o wella cysylltiadau ar draws rhwydwaith TrawsCymru er mwyn diwallu anghenion teithwyr.

Bydd yr amserlenni newydd yn dod i rym ddydd Sul 5 Tachwedd law yn llaw â phrisiau newydd a gwasanaethau bysiau ychwanegol sy'n rhedeg yn fwy aml ar lwybrau T2 a T3.

Mae esboniad llawn o’r newidiadau i’r ddau wasanaeth ar gael isod.

Newidiadau i wasanaeth T2 rhwng Bangor ac Aberystwyth:

  • Bydd gwasanaeth T2 yn cael ei gyfuno â’r X28, a fydd yn cael ei ail-frandio fel T28 maes o law, er mwyn cynnig gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
  • Bydd gwasanaethau T2 a T28 yn cysylltu â’r T1 yn Aberystwyth i’r ddau gyfeiriad.
  • Byddwn yn cyflwyno tocynnau sy'n cynnig gwell gwerth am arian ar wasanaethau T2 a T28, gan ddechrau o £1.25.
  • Bydd tocynnau 1Bws dyddiol ac wythnosol yn ddilys ar y ddau wasanaeth.
  • Bydd T2 nawr yn gwasanaethu Cricieth yn lle Garndolbenmaen a fydd yn cael ei wasanaethu gan T22 newydd a fydd yn ymuno â’r gwasanaeth yn fuan.
  • Rhwng T2 a T22, cynigir gwasanaeth bob awr rhwng Caernarfon a Phorthmadog.
  • Bydd gwasanaeth amlach bob 2 awr ar gyfer y T2 ar ddydd Sul yn cynnig mwy o opsiynau i gwsmeriaid allu teithio.

Mae’r T2 yn cysylltu â’r T3 (Y Bermo i Wrecsam) yn Nolgellau.

Newidiadau i wasanaeth T3 rhwng Y Bermo a Wrecsam:

  • Caiff y gwasanaeth ei rannu’n ddau – T3 a T3C.
  • Bydd y T3C yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng Llanuwchllyn, y Bala, Llandderfel, Llandrillo, Cynwyd a Chorwen.
  • Gall teithwyr o Lanuwchllyn, Llandderfel, Llandrillo a Chynwyd gysylltu â gwasanaeth T3 yng Nghorwen lle bydd cysylltiad pum munud i’r ddau gyfeiriad i Wrecsam.
  • Byddwn yn cyflwyno tocynnau sy'n cynnig gwell gwerth am arian ar T3 a T3C, gan ddechrau o £1.25.
  • Bydd tocynnau trwodd ar gael i alluogi teithio di-dor rhwng y T3 a’r T3C.

Mae’r T10 (Bangor i Gorwen) yn cysylltu â’r T3 yng Nghorwen i deithio i mewn ac allan o Wrecsam. Mae’r T8 (Corwen i Gaer drwy Ruthun a’r Wyddgrug) yn cysylltu â’r T3 yng Nghorwen i deithio i mewn ac allan o Gaer. Mae’r T3 yn cysylltu â’r T2 yn Nolgellau.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i ap TrawsCymru neu gofynnwch i un o’r gyrwyr am daflen â’r amserlenni newydd.

Ffynhonnell y wybodaeth: TrawsCymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon