Newyddion

Teithiau bws rhatach yn Rhondda Cynon Taf y mis Rhagfyr yma

Teithiau bws rhatach yn Rhondda Cynon Taf y mis Rhagfyr yma

06 Tachwedd 2023

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd ar gyfer pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno ar gyfer mis Rhagfyr 2023 – gan ddarparu teithio rhatach dros gyfnod yr ŵyl.

Darparwyd teithiau bws â chymhorthdal am gyfnod o chwe wythnos yn gynharach eleni, rhwng 24 Gorffennaf a 3 Medi, a oedd yn fenter lwyddiannus. Yn dilyn penderfyniad diweddar gan swyddogion dirprwyedig, bydd y cynnig ar gael eto y mis nesaf gan ddefnyddio dyraniad pellach o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor ar gyfer 2023/24.

Yn ystod y cynnig chwe wythnos flaenorol, adroddodd gweithredwyr bysiau lleol brofiad cadarnhaol i’r Cyngor, gyda chynnydd mewn cwsmeriaid yn ystod y cyfnod – ar adeg o’r flwyddyn sydd yn gyffredinol dawelach oherwydd gwyliau haf yr ysgol.

Mae cyhoeddiad heddiw'n cadarnhau y bydd y Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ailgyflwyno o ddydd Gwener, 1 Rhagfyr, i ddydd Sul, 31 Rhagfyr, 2023.

Bydd y cynnig yr un fath â'r hyn a roddwyd ar waith yn flaenorol, gan gwmpasu'r holl wasanaethau bws sydd wedi'u trefnu, sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau'r Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn berthnasol ni waeth pwy yw’r gweithredwr bws a heb unrhyw gyfyngiadau amser – felly bydd ar gael o’r gwasanaeth cyntaf i’r olaf bob dydd.

Ni fydd pob taith sy'n cychwyn neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf yn cael ei chynnwys yn y cynnig yma, a bydd defnyddwyr bysiau yn gorfod talu'r ffi lawn arferol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:

“Rwy’n siŵr y bydd defnyddwyr a gweithredwyr bysiau yn croesawu ailgyflwyno’r Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd ar gyfer Rhagfyr 2023, yn dilyn y cynllun llwyddiannus chwe wythnos yn gynharach eleni. Nod y cynnig yw bod yn deg a chynhwysol drwy helpu i leihau rhwystrau economaidd a allai atal rhai pobl rhag dal y bws – yn enwedig yn ystod y cyfnod yma ble mae Costau Byw yn parhau i fod yn uchel iawn.

“Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn hyrwyddo ei ymgyrch 'Siopa'n Lleol' i annog trigolion i ymweld â chanol trefi a rhoi hwb economaidd i fasnachwyr lleol yn ystod tymor y Nadolig. Trwy gael mynediad rhatach at deithiau bws, bydd hyn yn annog rhagor o bobl i ymweld â’n hardaloedd manwerthu. Byddwn ni hefyd yn parhau â’n menter parcio am ddim dros y Nadolig yn Aberdâr a Phontypridd y mis Rhagfyr yma, menter sy'n dychwelyd am ei degfed flwyddyn yn 2023.

“Dyma’r trydydd tro eleni i’r Cyngor ddyrannu cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i leihau prisiau tocynnau bws. Yr adborth o’r cynllun chwe wythnos rhwng mis Gorffennaf a mis Medi oedd bod gweithredwyr lleol wedi cael profiad da a’u bod wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer y bobl sy’n dal y bws. Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol o ystyried mai gwyliau’r haf oedd hi, adeg o'r flwyddyn y mae gweithredwyr fel arfer yn gweld gostyngiad yn y nifer sy'n defnyddio'r gwasanaeth gan nad yw disgyblion yn yr ysgol.

“Mae cefnogi trigolion a’r diwydiant bysiau yn y modd yma wedi bod yn bosibl ar ôl i’r Cyngor lwyddo i sicrhau £1.1 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae £1.2 miliwn arall hefyd wedi’i sicrhau ar gyfer 2024/25, a fydd yn ein galluogi ni i edrych ar opsiynau pellach i gyflwyno mesurau megis teithio â chymhorthdal yn y dyfodol. Bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r cynllun sydd ar ddod ar gyfer Rhagfyr 2023 yn eang fel bod modd i gynifer o bobl â phosibl fanteisio ar y cynllun.”

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau Costau Byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.

Ffynhonnell y wybodaeth: RCT

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon