Newyddion

Front of TrawsCymru Bus

Cyhoeddi llwybr T22 newydd TrawsCymru

09 Ionawr 2024

Mae'n bleser gan Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd gyhoeddi y bydd gwasanaeth newydd sbon diweddaraf TrawsCymru yn dechrau gweithredu ym mis Chwefror 2024.  

Dyma fydd y gwasanaeth bws trydan cyntaf ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Gwynedd a fydd yn rhedeg rhwng Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog.  Mae'r cerbydau a'r cyfleusterau gwefru wedi'u darparu diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a bydd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan Llew Jones International.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae'n newyddion gwych mai yma ar ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngwynedd y bydd y bysiau trydan cyntaf yn cael eu rhoi ar waith.  Bydd y gwasanaeth T22 newydd yn cynnig mwy o opsiynau teithio ar hyd llwybr Blaenau Ffestiniog i Borthmadog ac ymlaen i Gaernarfon, gyda manteision amgylcheddol sylweddol.

Dyma benllanw llawer o gydweithio agos rhwng Cyngor Gwynedd a Thrafnidiaeth Cymru, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru hefyd, ac mae'n enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd.”

Pan fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Chwefror, bydd y T22 yn galluogi pobl i deithio pob awr rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, a phob dwy awr rhwng Porthmadog a Chaernarfon.  Yn ogystal, bydd gwasanaeth T2 TrawsCymru yn parhau i weithredu rhwng Aberystwyth a Bangor gan deithio trwy Porthmadog a Chaernarfon.

Dywedodd Gethin George, Rheolwr Rhaglen TrawsCymru yn TrC: “Pleser yw gweithio gyda Chyngor Gwynedd i gyflwyno'r llwybr ychwanegol hwn i rwydwaith TrawsCymru.  Bydd yn darparu gwell mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gwell integreiddio rhwng bysiau a dulliau trafnidiaeth eraill.  Bydd hefyd yn annog pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio'r bws lle bynnag fo'n bosib.”

Mae Llew Jones International yn hynod falch bod contract arloesol Bws Trydan T22 wedi cael ei ddyfarnu iddynt.  Nhw yw’r gweithredwr gwasanaethau bysiau cyhoeddus annibynnol cyntaf yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth bws rheolaidd gan ddefnyddio bysiau trydan yn unig a sero allyriadau.

“Rydym yn falch iawn o fod ar flaen y gad o ran arloesi a chynaliadwyedd yn y sector trafnidiaeth gyhoeddus”, meddai Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Llew Jones International. “Mae cael contract bws trydan T22 Traws Cymru nid yn unig yn arwydd o’r hyn y mae ein cwmni wedi’i gyflawni, sy’n gyflawniad sylweddol, ond mae’n tanlinellu ein hymroddiad i ddarparu dulliau teithio ecogyfeillgar ac effeithlon i'r cymunedau a wasanaethwn.”

Bydd y bysiau trydan yn cynnig teithiau tawelach i deithwyr, gyda chyfleusterau gwefru diwifr, porth USB wrth bob sedd a sgrin fydd yn nodi manylion a chyhoeddiadau ynghylch y mannau y bydd y T22 galw ynddynt.

Bydd cyfle i ddysgu mwy am y gwasanaeth ac i weld un o'r bysiau ddydd Gwener 9 Chwefror ym Mhorthmadog.

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon