Gwasanaeth bysus am ddim - Abertawe
18 Mawrth 2024Mae'r cynnig bysus am ddim poblogaidd iawn yn y ddinas yn dychwelyd am 9 niwrnod dros wyliau'r Pasg ac mae'n cynnwys y tri phenwythnos. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.
Mae ar gyfer teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Dyma'r ardal yn cael ei ffinio gan Gasllwchwr (Ship & Castle), Pontarddulais (yr Orsaf Drenau), Garnswllt, Clydach (Mynwent Coed Gwilym), Lon-lâs (Bowen Arms) a Phort Tennant (Bevans Row) felly mae'n cynnwys lleoedd fel Gorseinon, Pontarddulais, Gŵyr a Threforys.
Mae cynnig bws am ddim yn berthnasol:
- Dydd Sadwrn 23 Mawrth
- Dydd Sul 24 Mawrth
- Dydd Llun 25 Mawrth
- Dydd Gwener 29 Mawrth (Dydd Gwener y Groglith)
- Dydd Sadwrn 30 Mawrth
- Dydd Sul 31 Mawrth (Dydd Sul y Pasg)
- Dydd Llun 1 Ebrill (Dydd Llun y Pasg)
- Dydd Sadwrn 6 Ebrill
- Dydd Sul 7 Ebrill
Cwestiynau cyffredin
Pwy sy'n gallu ei ddefnyddio?
Gallwn ni i gyd ei ddefnyddio. Os ydych yn teithio i weithio yn Abertawe neu i fwynhau diwrnod mas yng nghanol y ddinas ar un o'n traethau bendigedig, mae'r gwasanaeth am ddim. Does dim angen i chi ddangos prawf eich bod yn byw yn Abertawe i deithio am ddim.
Pa wasanaethau bysus sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig?
Mae gwasanaethau bysus sy'n cael eu gweithredu gan First Cymru, Adventure Travel, South Wales Transport a DANSA wedi'u cynnwys.
Yr unig wasanaethau sydd heb eu cynnwys yw:
- gwasanaethau coetsis pellter hir a weithredir gan National Express, Megabus a Flixbus
- Gwasanaethau PR1 a PR2 First Cymru yn ôl ac ymlaen i feysydd parcio a theithio.
Os byddaf yn dal bws sy'n teithio y tu allan i'r ardal, a fydd rhaid i mi dalu hyd yn oed os ydw i'n dod oddi ar y bws yn Abertawe?
Na fydd. Nodwch Abertawe fel eich cyrchfan, ac eisteddwch i lawr.
Os ydw i'n teithio y tu allan i'r ardal, a fydd yn rhaid i mi dalu am y siwrnai gyfan neu am y rhan nad yw yn Abertawe?
Yn anffodus, os ydych yn dal y bws ac yn teithio i rywle sydd y tu allan i ardal Abertawe, bydd yn rhaid i chi dalu am y siwrne gyfan. Yr opsiwn rhataf fel arfer yw prynu tocyn dydd.
Hoffwn deithio i Gampws y Bae o Orsaf Fysus Abertawe, er enghraifft. A fydd yn rhaid i mi dalu am y siwrne gyfan neu am y rhan ohoni sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn unig?
Yn anffodus bydd yn rhaid i chi dalu am y siwrne gyfan. Mae ein cynnig ar gyfer siwrneiau o fewn ardal Abertawe yn unig. Os ydych yn teithio y tu allan i Abertawe, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y gyrrwr i ble rydych yn teithio a thalu'r ffi briodol.
Ydy hyn yn berthnasol i barcio a theithio?
Yn anffodus nac ydy, ond mae cynigion eraill ar gael os ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth parcio a theithio.
Pwy sy'n talu am y gwasanaeth am ddim?
Y cyngor sy'n talu am ein bod am annog pobl i ddefnyddio'n gwasanaethau bysus lleol.
Beth os oes gennyf docyn tymor?
Ni fydd angen i chi ei ddangos tra bydd y cynnig ar gael. Ond ni chaiff eich tocyn tymor ei estyn ac ni chewch ad-daliad ar ei gyfer.
Mae gen i gerdyn bws consesiynol am ddim - sut mae hyn yn effeithio arnaf?
Gall pobl a chanddynt Gardiau Teithio Rhatach Cymru barhau i deithio am ddim a dylid dangos cardiau fel arfer i'r gyrrwr wrth fynd ar y bws.
Ai'r cyfan sy'n rhaid i mi ei wneud yw mynd ar y bws? Oes rhaid i mi ddatgan i ble rwy'n mynd neu gasglu tocyn gan y gyrrwr?
Os yw'r bws yn gweithredu o fewn Abertawe, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw camu ar y bws a mwynhau'r daith. Os yw'r bws yn teithio y tu allan i Abertawe, i Gastell-nedd neu Gaerfyrddin er enghraifft, efallai y bydd y gyrrwr yn gofyn i ble rydych chi'n mynd, gan fod y cynnig teithio am ddim ar gyfer lleoliadau yn Abertawe'n unig.
A fydd pob cwmni bysus yn gweithredu yn yr un ffordd?
Bydd. Bydd yr un drefn ar waith dim ots pa gwmni bysus rydych yn teithio gyda nhw.