Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd mawr, mae llawer ohonom yn teimlo’n bryderus ynghylch yr hyn sy’n digwydd yn y byd, diogelwch ein hanwyliaid, ac effaith COVID-19 ar ein bywydau o ddydd i ddydd yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.
Yn awr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig tynnu sylw at rai o’r straeon gwych a chalonogol am newyddion da sy’n digwydd ar draws y diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru wrth ymateb i COVID-19. Byddwn yn ychwanegu at y rhestr hon yn gyson yn ystod yr wythnosau nesaf, felly cofiwch ddod yn ôl i ddarllen am fentrau newydd a allai fod o help i chi neu’ch anwyliaid.
Cofiwch droi i’n tudalen Gwybodaeth am y Coronafeirws i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf gan weithredwyr cyn eich bod yn gwneud eich teithiau hanfodol.
Bydd gweithwyr y GIG yn cael teithio am ddim ar fysiau ledled Cymru yn rhan o gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru.
At hynny mae gweithredwyr wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw fws yn cludo mwy o deithwyr na hanner ei gapasiti, ac maent wedi ymrwymo i barhau i weithredu llwybrau ac amserlenni allweddol ar gyfer gweithwyr allweddol a’r sawl y mae angen iddynt deithio er mwyn siopa bwyd a diwallu eu hanghenion meddygol.
Mae’r gweithredwyr isod wedi cadarnhau y byddant yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio am ddim yn syth:
Yn unol â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru, bydd cwmni Bysiau Arriva Cymru yn caniatáu i bob un o weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar ei fysiau. Dangoswch eich bathodyn adnabod dilys gan y GIG i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.
O ddydd Iau 26 Mawrth ymlaen nes y nodir yn wahanol, er mwyn cynorthwyo gweithwyr rheng flaen y GIG sy’n brwydro yn erbyn y pandemig coronafeirws, bydd gweithwyr y GIG yn gallu teithio am ddim ar bob un o wasanaethau Bws Caerdydd. Dangoswch eich cerdyn adnabod gan y GIG i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws, a byddwch yn gallu teithio am ddim.
Bydd Edwards Coaches yn rhoi tocynnau am ddim i unrhyw rai o weithwyr y GIG sy’n teithio ar ei lwybrau rhwng ardal Pontypridd a Chaerdydd, gan gynnwys gwasanaethau sy’n mynd heibio i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Erbyn hyn mae First Cymru yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio AM DDIM ar ein bysiau. Dangoswch eich bathodyn adnabod i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.
Mae Goodsir Coaches yn caniatáu i weithwyr y GIG a gweithwyr cymorth gofal deithio’n rhad ac am ddim.
O ddydd Llun 30 Mawrth ymlaen, gall gweithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar bob un o wasanaethau bws Gwynfor Coaches, dim ond iddynt ddangos cerdyn adnabod dilys gan y GIG.
Bydd gweithwyr y GIG yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar bob un o wasanaethau Llew Jones Coaches o ddydd Llun 30 Mawrth ymlaen. Er mwyn cael teithio am ddim, dangoswch eich cerdyn staff GIG Cymru i’r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws.
Gall pob un o weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau Lloyds Coaches, dim ond iddynt ddangos cerdyn adnabod gan y GIG.
Gall gweithwyr y GIG deithio am ddim ar wasanaethau Mid Wales Travel drwy ddangos eu bathodyn adnabod gan y GIG pan fyddant yn mynd ar y bws.
Gall gweithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar wasanaethau Morris Travel drwy ddangos eu bathodyn adnabod pan fyddant yn mynd ar y bws.
Mae Newport Bus yn caniatáu i weithwyr y GIG, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth tân a swyddogion heddlu deithio am ddim ar ei rwydwaith o wasanaethau bws tra bydd y pandemig COVID-19 yn parhau. Dangoswch eich bathodyn adnabod i’r gyrrwr.
Mae’r cwmni hefyd yn cynnig trafnidiaeth amgen am ddim i weithwyr y GIG a’r gwasanaethau brys sy’n wynebu sefyllfaoedd lle nad yw’r amserlenni presennol yn diwallu eu hanghenion. Mae’r cynnig yn cynnwys:
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Newport Bus.
Mae NAT yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio am ddim. I fod yn gymwys rhaid i weithwyr ddangos cerdyn adnabod dilys gan y GIG, sy’n cynnwys llun, i’r gyrrwr pan fyddant yn mynd ar y bws.
O ddydd Gwener 27 Mawrth ymlaen nes y nodir yn wahanol, mae cwmni Phil Anslow and Sons Coaches yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar bob un o’i fysiau. Dangoswch eich cerdyn adnabod staff y GIG i’r gyrrwr er mwyn cael teithio am ddim.
Bydd Stagecoach yn Ne Cymru hefyd yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio’n rhad ac am ddim ar bob un o’i wasanaethau, ac eithrio gwasanaethau Lloegr, gwasanaethau Megabus a gwasanaethau 40A/B/C a 43/X43 Cyswllt TrawsCymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu i weithwyr y GIG deithio’n ôl ac ymlaen i’w gwaith am ddim tan 30 Ebrill, dim ond iddynt ddangos eu cerdyn adnabod gan y GIG.
Mae gweithwyr y GIG erbyn hyn yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar rwydwaith TrawsCymru® (gwasanaethau T1, T1C, T2, T3, T4, T5, T6, T11, T12, X43, 43 a 460) drwy gydol y dydd saith diwrnod yr wythnos heb unrhyw gyfyngiadau. Dangoswch eich bathodyn adnabod staff y GIG i’r gyrrwr pan fyddwch yn mynd ar y bws.
Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth sgwrsio dros y ffôn i bobl dros 70 oed yng Nghymru sy’n byw ar eu pen eu hunain.
Y gobaith yw y bydd y fenter yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd i bobl hŷn ac yn fodd i ateb ymholiadau syml a chysylltu pobl â gwasanaethau a chymorth lleol tra bydd y coronafeirws yn parhau. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn hanfodol i lawer o ddeiliaid y cerdyn teithio rhatach ledled Cymru, oherwydd mae’n eu galluogi i osgoi unigrwydd ac i ymwneud â’u cymuned leol.
Gall unrhyw un dros 70 oed yng Nghymru gofrestru am ddim er mwyn cael galwad ffôn reolaidd, yn Gymraeg neu yn Saesneg, gan Age Cymru. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw ffonio llinell gyngor Age Cymru ar 08000 223 444 neu anfon ebost i’r elusen gan nodi’r wybodaeth ganlynol:
Ewch i wefan Age Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ychwanegol.
Mae Canolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd yn cynnig lle parcio am ddim i weithwyr y GIG.
I hawlio lle parcio am ddim, pwyswch y botwm cymorth ar y peiriant talu a/neu wrth y rhwystr ymadael. Gallwch aros am hyd at 13 awr ar y tro.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Siopa Dewi Sant.
Bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio’r NCP neu’r Cyngor yng nghanol dinas Abertawe (ond nid yn Ffordd y Brenin). Mae meysydd parcio Dewi Sant a’r Quadrant, a gaiff eu rhedeg gan yr awdurdod lleol, ar gau ers 24/3/2020 ac nid yw’r gwasanaethau Parcio a Theithio yn gweithredu chwaith. Mae’r newidiadau hyn wedi’u gwneud er budd gweithwyr allweddol a’r bobl hynny sy’n gorfod ymweld â chanol y ddinas i siopa. Bydd hynny’n helpu i atal pobl rhag ymgasglu ar fysiau neu ar safleoedd meysydd parcio Dewi Sant a’r Quadrant.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi lansio ymgyrch a fydd yn ceisio cynorthwyo cymunedau a chymdogaethau ledled Cymru drwy gydol y pandemig.
Mae tudalen arbennig wedi’i chreu ar wefan Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cyngor ynghylch hunanynysu, beth y gallwch ei wneud i helpu pobl fregus a sut y gallwch gynorthwyo eich cymuned ehangach yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r gwasanaeth bws lleol, Bwcabus, wedi bod yn cysylltu ag amryw gartrefi gofal yn ardal Bwcabus. Byddai rheolwyr y cartrefi gofal y mae’r gwasanaeth wedi siarad â nhw wrth eu bodd pe bai’r preswylwyr yn cael llythyr neu ddarlun gan blant sydd gartref ar hyn o bryd.
Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cael ei ysbrydoli gan y miloedd o bobl sy’n clapio i’r GIG bob nos Iau am 8pm. Mae’r cwmni wedi penderfynu canmol y gwaith caled y mae gweithwyr rheng flaen a gweithwyr allweddol yn ei wneud ledled y DU, drwy ddangos nifer o negeseuon ar du blaen ei fysiau.
Yn lle’r neges ‘dim gwasanaeth’ sydd i’w gweld ar sgriniau bysiau, byddwch yn awr yn gweld y negeseuon canlynol:
Er mwyn cydnabod mesurau diogelwch a gwasanaethau parhaus NAT Group, mae llawer o deithwyr wedi anfon negeseuon o ddiolch a gwerthfawrogiad i’r cwmni yn uniongyrchol ac ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’r negeseuon yn cynnwys geiriau o ddiolch am ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer gweithwyr allweddol a’r sawl y mae eu teithiau’n hanfodol, yn ogystal â chanmoliaeth i’r gyrwyr a’r staff.
Mae rhai o’r negeseuon a gafwyd wedi’u troi yn bosteri y mae’r cwmni yn bwriadu eu harddangos yn ei ddepo ac ar ei fysiau yn y dyfodol agos. Gallwch weld un o’r posteri yma.
Pan sylweddolodd Beverley Mather na allai’r gwasanaeth Galw’r Gyrrwr y mae’n ei reoli weithredu yn ystod y cyfyngiadau oherwydd y coronafeirws, gwnaeth benderfyniad ar unwaith.
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae Beverley wedi bod yn gweithio’n ddiflino i helpu unrhyw bobl yn ei chymuned leol y mae angen help arnynt. Mae hi a’i thîm o wirfoddolwyr wedi parhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl nad oes ganddynt neb arall i droi ato, gan gynnig help sy’n amrywio o ddosbarthu cyflenwadau bwyd hanfodol yn ddiogel i fynd â chŵn am dro a chasglu presgripsiynau.
Gallwch ddarllen yr erthygl lawn gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol am waith gwych Beverley yma.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno ei drenau cyntaf sydd â sticeri enfys er mwyn rhoi teyrnged i’r holl weithwyr allweddol eraill sy’n helpu yn y frwydr yn erbyn Covid19.
Mae’r enfys wedi dod i’r amlygrwydd fel symbol o ddiolch i'r holl gweithwyr allweddol sy'n cynorthwyo'r wlad ar yr adeg anodd hon, a fydd nawr i'w gweld ar ochr trenau TrC.