Newyddion

Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth am deithiau hanfodol dros benwythnos y Pasg

Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth am deithiau hanfodol dros benwythnos y Pasg

08 Ebrill 2020

Gall gweithwyr iechyd hollbwysig a phobl sy’n gwneud teithiau hanfodol ledled Cymru dros benwythnos y Pasg weld y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus, diolch i dudalen bwrpasol Traveline Cymru am y Coronafeirws.

 

Bydd llawer o weithredwyr yn rhedeg gwasanaeth gwahanol i’r arfer dros y penwythnos hwn, ac mae Traveline Cymru wrthi’n diweddaru gwybodaeth am drenau a bysiau’n rheolaidd drwy gyfrwng ei dudalen bwrpasol, wrth i weithredwyr barhau i addasu eu hamserlenni.

Mae gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus yn cynorthwyo gweithwyr allweddol, a’r sawl sy’n gwneud teithiau hanfodol, yn dilyn gwaharddiad y Llywodraeth ar deithiau nad ydynt yn hanfodol, mewn ymgais i leihau’r graddau y mae’r feirws yn ymledu.

Drwy dudalen Traveline Cymru am y Coronafeirws, y mae pobl wedi troi ati 43,000 o weithiau, gall y sawl sy’n gwneud teithiau hanfodol dros y Pasg ac yn ystod yr wythnosau nesaf weld y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau gan weithredwyr bysiau a threnau wrth i’r sefyllfa barhau i ddatblygu.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Mae’r sefyllfa o ran y Coronafeirws yn datblygu’n gyflym ac yn cael effaith na welwyd ei thebyg o’r blaen ar bob agwedd ar fywyd ledled y byd.

“Nid yw’r diwydiant trafnidiaeth yn eithriad, a bydd lefel y gwasanaeth a fydd ar gael dros benwythnos y Pasg yn wahanol i’r hyn y mae teithwyr wedi arfer ag ef.

“Mae angen i weithwyr allweddol a gweithwyr hanfodol y GIG gael gafael o hyd ar ddulliau dibynadwy o deithio dros y penwythnos er mwyn iddynt allu parhau i ddarparu gwasanaeth amhrisiadwy yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Yn yr un modd, mae’n bosibl hefyd y bydd angen i bobl ledled Cymru ddefnyddio gwasanaethau bws neu drên er mwyn ymweld â pherthnasau bregus neu gasglu nwyddau hanfodol ar gyfer eu cartrefi.

“Felly, mae ein tudalen bwrpasol am y Coronafeirws wedi’i chreu er mwyn cynorthwyo pawb sy’n gwneud y teithiau hanfodol hynny, a bydd yn fodd i bawb gael y manylion diweddaraf am amserlenni sy’n newid yn gyflym ac am newidiadau i lwybrau yn ystod penwythnos y Pasg a’r wythnosau nesaf.

“Hoffem ddiolch o galon i’r holl weithwyr rheng flaen sy’n parhau i deithio i’r gwaith bob dydd er mwyn cynorthwyo pobl ar draws y wlad, a byddwn yn parhau i ddarparu’r manylion diweddaraf er mwyn helpu’r bobl hynny i gyrraedd eu gwaith.”

 

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am deithio ac i weld unrhyw newidiadau i drefniadau teithio, ewch i https://www.cymraeg.traveline.cymru/coronavirus/

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch ag Elle Holley yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio elle@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon