Newyddion

Transport-for-Wales-reminds-customers-to-check-before-they-travel-this-Easter

Trafnidiaeth Cymru’n atgoffa cwsmeriaid i wneud eu gwaith cartref cyn teithio dros y Pasg

30 Mawrth 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru’n atgoffa cwsmeriaid i wneud eu gwaith cartref cyn teithio dros benwythnos y Pasg, gan fod gwaith peirianyddol hollbwysig yn cael ei wneud ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Yn ne Cymru, bydd bysiau’n cael eu darparu yn lle trenau rhwng Pontypridd a Radyr wrth i’r gwaith barhau i drawsnewid y rheilffordd ar gyfer Metro De Cymru, a fydd yn darparu gwasanaethau amlach a chyflymach rhwng Caerdydd a’r Cymoedd o 2023 ymlaen.

Y gwaith dros benwythnos y Pasg rhwng Pontypridd a Radyr yw’r cam nesaf yn y rhaglen drawsnewid barhaus. Yn y gorffennol mae’r rhaglen wedi cynnwys cyfnod rhwystro llwyddiannus dros dair wythnos ym mis Ionawr, a gwaith dros nos parhaus ar wahanol rannau o rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.

Hefyd bydd Network Rail yn gwneud gwaith peirianyddol rhwng Caer a Manceinion. Bydd gwasanaethau TrC rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion yn rhedeg cyn belled â Chaer, a bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau rhwng Caer a Manceinion Piccadilly.

Ddydd Sul y Pasg (4 Ebrill), ni fydd gwasanaethau TrC rhwng Lerpwl Lime Street a Chaer drwy Runcorn yn rhedeg chwaith. Bydd bysiau’n galw yn y gorsafoedd ar hyd y llwybr.

Mae gan Trafnidiaeth Cymru neges glir i’r cyhoedd sy’n teithio’r penwythnos hwn; mae’n eu hannog i ddilyn yr holl gyngor teithio’n saffach ac i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn Cadw Cymru’n Ddiogel.

Mae TrC yn atgoffa’r rheini sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus bod ganddynt gyfrifoldeb sylfaenol i ddilyn canllawiau, i gadw pellter cymdeithasol ac i gynllunio eu taith ymlaen llaw. Mae TrC hefyd yn pwysleisio bod cyfyngiadau’n dal ar waith ar gyfer teithio rhwng Cymru a Lloegr.

 

At hynny, mae’r holl drefniadau teithio ar gyfer penwythnos y Pasg (o ddydd Gwener 2 Ebrill tan ddydd Llun 5 Ebrill) i’w gweld ar ein tudalen am y Coronafeirws, felly dylech ddarllen y wybodaeth honno’n ofalus cyn teithio oherwydd ni fyddwn yn gallu diweddaru ein Cynlluniwr Taith i adlewyrchu’r newidiadau. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon