Traveline Cymru yn lansio nodwedd ‘problemau teithio’ newydd yn dilyn adborth gan gwsmeriaid
31 Mai 2021Yn awr, byddwch yn gallu gweld problemau teithio’n ôl dull teithio a gweld pan fydd problem deithio wedi dod i ben.
Rydym yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella eglurder y wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i chi a gwella ansawdd y wybodaeth yr ydym yn ei chael gan weithredwyr trafnidiaeth ledled Cymru.
Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid a’r gwaith parhaus a wnawn i adolygu ein gwefan a’n gwasanaethau, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r modd yr ydym yn dangos gwybodaeth am broblemau teithio, yn ogystal â rhai newidiadau y tu ôl i’r llenni er mwyn gwella ymhellach y wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i chi. Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chael ymlaen llaw am broblemau teithio i’w gweld ar ein tudalen problemau teithio bwrpasol, a chaiff ei bwydo hefyd i’n Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni.
Pa newidiadau sy’n cael eu cyflwyno?
- Categoreiddio problemau teithio: Yn awr, bydd y wybodaeth yr ydym yn ei chael ymlaen llaw gan weithredwyr trafnidiaeth am broblemau teithio’n cael ei dangos yn un o’r categorïau canlynol ar ein tudalen problemau teithio: ‘Bysiau’, ‘Trenau’, ‘Digwyddiadau mawr’ ac ‘Arall’. Bydd hynny’n ei gwneud yn haws i chi ddod o hyd i wybodaeth ar y dudalen, heb orfod darllen trwy lwyth o wybodaeth am wahanol broblemau teithio. Mae’n bosibl y bydd rhai problemau teithio i’w gweld mewn mwy nag un categori.
- Dangos bod problemau teithio wedi dod i ben: Bydd gwybodaeth am broblemau teithio’n dal i gael ei dangos ar y dudalen hon ac yn cael ei bwydo i’r Cynlluniwr Taith a’n tudalen Amserlenni am nifer benodol o ddiwrnodau ar ôl i’r problemau ddod i ben, ond bydd label ‘Wedi dod i ben’ wrth eu hymyl. Diben hynny yw helpu i osgoi unrhyw ddryswch a achosir wrth i broblemau teithio ddiflannu o’r wefan yn sydyn.
Pryd y bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno?
Y newidiadau hyn yw Cam 1 y datblygiadau yr ydym yn eu gwneud i’n gwybodaeth am broblemau teithio, a byddant yn mynd yn fyw ar 1 Mehefin. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar Gam 2 y prosiect, ac rydym yn gobeithio rhannu mwy o fanylion am y datblygiadau hynny yn ystod y misoedd sydd i ddod.
Sut y gallaf rannu fy adborth am y newidiadau hyn neu gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau yn y dyfodol?
Mae eich adborth am brosiectau tebyg i’r rhain yn amhrisiadwy i ni. Os hoffech rannu eich barn am Gam 1 y prosiect neu am welliannau eraill yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yng Ngham 2, anfonwch ebost i feedback@traveline.cymru.
Os hoffech fynegi barn ynghylch sut mae gwella ein gwasanaethau yn gynharach yn y broses ddatblygu, a helpu i lunio’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, efallai yr hoffech ymuno â’n Panel Cwsmeriaid. Ni fydd unrhyw reidrwydd arnoch i ymateb i’r holl arolygon adborth yr ydym yn eu hanfon at aelodau’r Panel Cwsmeriaid, dim ond i’r rhai y byddech yn hoffi rhannu eich barn amdanynt.