Newyddion

Merthyr-Tydfil’s-£12m-bus-interchange-opening-next-week

Cyfnewidfa Fysiau £12 miliwn Merthyr Tudful ddydd Sul 13 Mehefin

03 Mehefin 2021

Bydd y bysiau cyntaf yn gadael cyfnewidfa fysiau fodern, newydd Merthyr Tudful, Ddydd Sul 13 Mehefin. 

Dyma’r orsaf fysiau gyntaf yng Nghymru sydd â chyfleusterau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar y safle. Nid yw’n defnyddio cyflenwadau nwy nac unrhyw danwydd ffosil arall ac mae’r gwres a’r dŵr poeth yn cael eu darparu gan ffynonellau ynni gwyrdd, adnewyddadwy. Bydd y bysiau, a fydd yn defnyddio’r orsaf yn rhai disel, i ddechrau ond y nod yw y byddant, cyn hir yn rhai trydan. Mae’r gorsafoedd gwefru trydan ar gyfer tacsis yn barod i’w defnyddio.

Mae’r Gyfnewidfa yn gobeithio ennill Gwobr Cynaliadwyedd Adeiladu Arbenigedd yng Nghymru ar gyfer 2021. Hon fydd trydedd orsaf fysiau prysuraf Cymru ac mae’r tai bach cyhoeddus yn defnyddio tanc casglu dŵr glaw.  

Bydd pob gweithredwr bysiau, gan gynnwys Stagecoach, First Call Travel, NAT a Peter's Minibus yn symud o’r orsaf bresennol ar Stryd Fictoria i’r safle newydd ar Stryd yr Alarch a fydd hefyd yn cynnwys safle ar gyfer Heddlu De Cymru, caffi annibynnol Bradleys a chiosg coffi Milk & Sugar.  

Agor gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful (Swan Street) – Newidiadau i arosfannau bysiau o 13/06/2021 ymlaen

Bydd gorsaf Stryd Fictoria yn cael ei chau a’i diogelu ar gyfer datblygiad y dyfodol. 

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Gorffennaf 2019 ac er gwaethaf heriau pandemig Covid-19, cafodd ei chwblhau, ar amser mewn 91 wythnos. Cafodd y gyfnewidfa ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac roedd dros 95% o’r busnesau cadwyn gyflenwi a ddefnyddiwyd yn ystod yr adeiladu wedi’u lleoli oddi fewn 25 milltir i’r safle.  

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton: 

“Rydym wrth ein boddau â’r adeilad ac rydym yn gwybod y bydd ein preswylwyr a’n hymwelwyr o’r un farn hefyd. Mae’n edrych yn wych a bydd yn rhoi argraff dda a chroeso modern a glân i bobl a fydd yn cyrraedd canol y  dref. 

“Mae wedi ei lleoli yn nes at orsaf reilffordd y dref a’r bwriad yw creu adnodd cyfnewidfa hyb trafnidiaeth newydd a fydd yn cydgysylltu â Metro De Cymru. Mae cynllun trawiadol y to a’r modd cynaliadwy y cafodd yr adeilad ei gynllunio yn sicrhau ei fod yn gyfnewidfa drafnidiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn sbardun ar gyfer ailddatblygiadau’r dyfodol yng nghanol y dref. 

“Mae’r Cyngor yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu’r prosiect sydd yn cyd-fynd â’i fuddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Prif Linellau’r Cymoedd. Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r prif gontractwr, Morgan Sindall am gwblhau’r adeilad i’r safon uchaf posib ac ar amser yn ystod cyfnod mor anodd.” 

 

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Ross Williams:

“Rydym ni, ym Morgan Sindall yn gyffrous i weld yr adeilad yr ydym ni a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi bod yn gweithio mor galed arno yn cael ei ddefnyddio gan drigolion Merthyr Tudful. 

“Mae’r gyfnewidfa fysiau wedi bod yn brosiect heriol ond gwerth chweil. Rydym yn falch y bydd yn torri tir newydd ac y bydd y dyfeisiadau newydd yn awr yn cael eu defnyddio.” 

 

Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach, De Cymru:

"Rydym yn croesawu’r buddsoddiad yn adeilad newydd yr orsaf fysiau ym Merthyr Tudful. Mae prosiect cyhoeddus mor flaenllaw yn gymorth i godi hyder ymhlith cwsmeriaid wrth i’r cyfyngiadau lacio ac i bobl ddechrau teithio ar y bws unwaith eto. 

“Mae gorsafoedd fysiau yn gyfleusterau ar gyfer cwsmeriaid ac yn gyfle i gyfoethogi profiad y cwsmer, boed yn hen neu’n newydd. Mae rhoi’r hyder i bobl allu teithio unwaith eto yn bwysicach nac erioed i drafnidiaeth teithwyr ar hyn o bryd.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (ATPRC):

“Rydw i mor falch fod yr Awdurdod wedi gallu bod yn rhan mor allweddol yn natblygiad a darpariaeth y cyfleuster newydd, rhagorol hwn ym Merthyr Tudful a hynny fel rhan o ddyhead ehangach y Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer y cynllun Metro Plus i greu gwasanaeth fysiau a threnau o’r safon uchaf yn ogystal â chyfnewidfa hyb teithio llesol rhanbarthol.”   

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Merthyr Tudful

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon