
Cadwch y dyddiad! Bydd ‘Diwrnod Aer Glân 2021’ Global Action Plan yn digwydd ddydd Iau 17 Mehefin
08 Mehefin 2021Y thema eleni yw ‘diogelu iechyd ein plant rhag llygredd aer’ ar ôl blwyddyn lle mae’r pandemig COVID-19 wedi amharu ar fywydau plant.
Beth yw Diwrnod Aer Glân a pham y mae’n bwysig?
Diwrnod Aer Glân yw ymgyrch mwyaf y DU ynglŷn â llygredd aer, ac mae’n cynnwys miloedd o bobl mewn cannoedd o ddigwyddiadau ac yn cyrraedd miliynau yn rhagor drwy’r cyfryngau.
Mae’r diwrnod eleni yn dilyn llwyddiant ymgyrch Diwrnod Aer Glân 2020 (a ohiriwyd tan fis Hydref oherwydd y pandemig Covid-19) pan ymdrechodd pobl a sefydliadau o hyd i adael eu car gartref; cynnal digwyddiadau rhannu dealltwriaeth ar-lein; rhannu gwybodaeth a syniadau ar gyfryngau cymdeithasol; a sicrhau bod y galw am aer glân i’w glywed ar draws y cyfryngau.
Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd a’r llywodraeth yn cydnabod o hyd mai llygredd aer yw’r risg amgylcheddol fwyaf yr ydym yn ei hwynebu heddiw i’n hiechyd, oherwydd mae’n achosi hyd at 36,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU. Ar ôl blwyddyn a roddodd i ni flas o sut brofiad yw cael strydoedd tawelach ac aer glanach, mae’n bwysicach yn awr nag erioed o’r blaen i wella ein dealltwriaeth o lygredd aer ac ystyried sut y gallwn i gyd ymddwyn mewn modd sy’n hybu aer glân.
Ddydd Iau 17 Mehefin bydd cymunedau, ysgolion a busnesau (a ninnau yn eu plith!) yn dangos eu cefnogaeth i weithredu ynghylch llygredd aer ac yn lleisio eu barn er mwyn dangos cymaint o bwys yr ydym yn ei roi ar greu dyfodol ag aer glân i’n plant. A gallwch chi gymryd rhan hefyd!
Sut y mae llygredd aer yn niweidio iechyd?
Mae llygredd aer yn derm cyffredinol ar gyfer llawer o wahanol fathau o lygredd sydd yn yr aer o’n cwmpas. Gallwch anadlu pob un o’r llygryddion hyn a’u hamsugno yn eich corff. Caiff mathau gwahanol o lygredd aer eu hachosi gan bethau gwahanol.
Gall aer o ansawdd gwael gynyddu’r risg o ddioddef rhai problemau iechyd, a gall waethygu unrhyw broblemau iechyd sy’n bodoli’n barod. Yn achos oedolion, mae hynny’n cynnwys mwy o risg o ddioddef: symptomau peswch a fflem; niwmonia bacterol; pwysedd gwaed uchel; clefyd cardiofasgwlaidd; ac, yn yr hirdymor, canser yr ysgyfaint.
Yn achos plant, gall y ffaith bod eu cyrff yn llai a bod eu horganau a’u systemau imiwnedd yn dal i ddatblygu olygu eu bod yn arbennig o sensitif i lygredd aer. At hynny, gall gyfrannu at achosi asthma mewn rhai plant a gall waethygu symptomau’r plant hynny sydd ag asthma’n barod. Gall dod i gysylltiad â llygredd aer effeithio hefyd ar y modd y mae ysgyfaint plant yn datblygu, a gall achosi problemau iechyd hirdymor.
Sut y gallaf helpu i fy niogelu fy hun a diogelu pobl eraill a’r amgylchedd?
Mae Global Action Plan yn argymell y ffyrdd canlynol o leihau cysylltiad â llygredd aer a lleihau’r llygredd aer sy’n cael ei greu:
- Ceisiwch gerdded, beicio neu fynd ar eich sgwter yn lle gyrru: Gall bod yn sownd mewn traffig olygu eich bod yn dod i gysylltiad â llawer o lygredd. Gall aer wedi’i lygru o bibellau mwg cerbydau eraill gael ei sugno i mewn i’ch car, a bydd yn aros yno’n aml, sy’n golygu y byddwch yn anadlu llawer o lygredd i mewn. Canfu un arbrawf fod y llygredd yr oedd gyrrwr car yn dod i gysylltiad ag ef ddwywaith yn fwy na’r hyn yr oedd cerddwr yn dod i gysylltiad ag ef, a naw gwaith yn fwy na’r hyn yr oedd beiciwr yn dod i gysylltiad ag ef, wrth wneud yr un daith. Gallwch ddefnyddio ein Cynllunwyr Cerdded a Beicio i ddod o hyd i’r llwybrau sydd fwyaf cyfleus i chi.
- Ceisiwch ystyried eich opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus: Ar draws y DU, pe bai pawb yn gwneud un daith yn fwy ar y bws bob mis, byddem yn gwneud biliwn yn llai o deithiau mewn car a byddai allyriadau carbon deuocsid y DU ddwy filiwn o dunelli’r flwyddyn yn llai[1]. Mae hynny’n golygu y gall pob un ohonom chwarae ein rhan, drwy ystyried ein hopsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus unwaith yn unig yr wythnos a helpu i leihau nifer y ceir sydd ar ein ffyrdd. Mae gan y diwydiant trafnidiaeth ran i’w chwarae hefyd drwy ddechrau defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn a’i gwneud yn haws, yn rhatach ac yn fwy cyfleus i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
- Ceisiwch osgoi cerdded ar hyd y ffyrdd prysuraf: Mae llygredd aer yn crynhoi o amgylch y ffyrdd prysuraf a gall hyd yn oed ychydig o bellter rhyngoch chi a’r ffyrdd hynny wneud gwahaniaeth mawr. Gwelwyd bod ffyrdd tawelach yn golygu bod eich cysylltiad â llygredd 20% yn llai.
- Ceisiwch beidio â gadael yr injan i redeg yn ddiangen: Os ydych yn gyrru, diffoddwch yr injan pan fydd eich cerbyd yn llonydd ac os yw’n ddiogel i chi wneud hynny.
- Ceisiwch deithio mewn cerbydau trydan: Mae yna lawer o gerbydau trydan y gallwch deithio ynddynt. Beth am logi car neu dacsi trydan ac ystyried prynu cerbyd trydan pan fyddwch yn prynu eich car nesaf?
Beth y mae’r diwydiant trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru yn ei wneud?
- Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ei ‘Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru’ a fydd yn llywio’r strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru yn ystod yr 20 mlynedd nesaf. Mae’n cydnabod yr angen am system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid yn y ffordd orau posibl ac er mwyn cyrraedd targed sero-net Llywodraeth Cymru ar gyfer allyriadau carbon erbyn 2050.
- Mae llawer o weithredwyr trafnidiaeth yn cyflwyno cerbydau trydan a mesurau effeithlonrwydd eraill ar eu rhwydwaith er mwyn gwella ansawdd aer a chreu system drafnidiaeth lanach a mwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r gweithredwyr hynny’n cynnwys Bws Caerdydd, Adventure Travel a Stagecoach.
- Rydym hefyd yn annog ein cwsmeriaid i ystyried dulliau teithio llesol ac opsiynau aml-ddull wrth deithio at ddibenion hamdden a dibenion gwaith. Gallwch ddefnyddio ein Cynllunwyr Cerdded a Beicio i gynllunio eich teithiau ar feic ac ar droed; clywed gan ein ffrindiau yn Sustrans Cymru am rôl teithio llesol yn ystod y pandemig ac wedi hynny mewn erthygl wadd ar gyfer ein blog; a dysgu am fanteision cerdded (a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhan o’ch taith) gan ein ffrindiau yn Ramblers Cymru mewn erthygl wadd arall.
I gael rhagor o wybodaeth a chael gwybod ym mha ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Aer Glân.
[1] Y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, ‘Gwell rhwydwaith bysiau i Gymru – Agenda ar gyfer Senedd nesaf Cymru’