Newyddion

6 nations

Chwe chyngor ar gyfer eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2024

29 Ionawr 2024

Mae Pencampwriaeth flynyddol y 6 Gwlad, sy’n cael ei chynnal am y 25ain tro eleni, ar fin dechrau! Bydd miloedd o gefnogwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt yn heidio i strydoedd Caerdydd wrth i Gymru herio Iwerddon a Lloegr yn Stadiwm Principality eleni.

Bydd y ffaith bod holl ffyrdd canol y ddinas ar gau a bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag arfer yn effeithio ar deithiau ar draws y ddinas. I’ch helpu i gynllunio, rydym wedi creu rhestr o’n prif gynghorion ar gyfer teithio’n ddiogel o gwmpas Caerdydd ar ddiwrnod gêm.

 

1. Beth yw eich cynllun chi?

Caiff 3 gêm eu cynnal yn Stadiwm Principality yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad eleni.

Gêm 

Dyddiad 

Cymru v Yr Alban 

Sadwrn 3 Chwefror (Y gic gyntaf am 16:45) 

Cymru v Ffrainc 

Sul 10 Mawrth (Y gic gyntaf am 15:00) 

Cymru v Yr Eidal 

Sadwrn 16 Mawrth (Y gic gyntaf am 14:15) 

 


Ar bob un o’r diwrnodau hyn, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau er mwyn helpu i gadw cefnogwyr rygbi mor ddiogel ag sy’n bosibl, yn ogystal ag ymwelwyr eraill sydd am ymuno yn y dathliadau. Mae hynny’n golygu y bydd nifer o weithredwyr bysiau’n rhedeg gwasanaeth gwahanol i’r arfer (byddant yn defnyddio arosfannau a llwybrau gwahanol). Bydd systemau ciwio ar waith yn y gorsafoedd trenau hefyd, a bydd rhai gorsafoedd ar gau yn ystod y gemau ac wedyn.

Er mwyn i chi allu teithio o amgylch Caerdydd mor hwylus ag sy’n bosibl, gorau oll os gallwch gynllunio eich taith ymlaen llaw. Byddwn yn diweddaru ein tudalen Problemau Teithio yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad wrth i wybodaeth ddod i law oddi wrth weithredwyr cyn y gemau hyn, felly cofiwch droi at y dudalen hon yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw newidiadau munud olaf.  

Os bydd y newidiadau hyn neu unrhyw newidiadau eraill yn effeithio ar eich taith, bydd triongl rhybuddio melyn i’w weld ar y canlyniadau sy’n ymddangos yn y Cynlluniwr Taith neu ar y dudalen Amserlenni.

Cofiwch y bydd unrhyw newidiadau byr rybudd a gawn gan weithredwyr i amserlenni’n cael eu hychwanegu at ein ‘Diweddariadau Byr Rybudd am Wasanaethau’.

 

2. Dilynwch ni ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Byddwn yn aildrydar unrhyw ddiweddariadau gan weithredwyr, sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw broblemau munud olaf neu am unrhyw oedi ar wasanaethau neu unrhyw newidiadau iddynt, ar ein tudalen Twitter @TravelineCymru rhwng 7am ac 8pm.

Mae hynny’n golygu y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw oedi neu am unrhyw ddargyfeiriadau neu newidiadau ychwanegol i wasanaethau, nad oedd modd eu rhagweld ymlaen llaw.

P’un a fyddwch yn mynd i’r gêm, yn ei gwylio mewn tafarn neu’n teithio o le i le yng Nghaerdydd, rydym yn argymell hefyd y dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n debygol y bydd tagfeydd difrifol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ac y bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy prysur nag arfer.

 

3. Unrhyw gwestiynau wrth i chi fynd o le i le? Mae’r atebion gennym ni.

Os oes arnoch angen unrhyw help i gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus cyn y gêm (neu hyd yn oed wrth i chi fynd o le i le yng Nghaerdydd ar y diwrnod), bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu. Gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm bob dydd!

Gall ein cynghorwyr egluro pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer eich taith, pa ddargyfeiriadau sydd ar waith, ac unrhyw wybodaeth arall y mae arnoch ei hangen er mwyn gallu teithio’n hwylus ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gan fod disgwyl i gynifer o bobl fod yng Nghaerdydd ar y diwrnod, mae hefyd yn syniad da i chi gadw ein rhif rhag ofn y cewch chi unrhyw anhawster defnyddio WiFi neu ddata ar ddyfais symudol.

  

4. Cadwch gyda’ch gilydd a chadwch yn ddiogel!

Bydd Caerdydd yn brysur tu hwnt ar ddiwrnod gêm, ac mae disgwyl i filoedd o bobl ymuno yn y dathliadau yn y stadiwm ac yn y tafarnau a’r bariau cyfagos.

Bydd arosfannau bysiau a gorsafoedd trenau’n fwy prysur nag arfer, felly gofalwch eich bod yn cadw gyda’ch ffrindiau a’ch teulu drwy gydol y dydd er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn cael amser da, ac ystyriwch bennu man cyfarfod rhag ofn y bydd unrhyw un yn eich grŵp yn mynd ar goll.

  

5. Cadwch olwg ar eich eiddo personol.

Wrth gerdded trwy dorfeydd mawr ar eich ffordd i’r gêm ac oddi yno, mae’n bwysig cadw eich eiddo personol gyda chi bob amser. Cyn i chi adael gwasanaeth bws neu wasanaeth trên, cofiwch fwrw golwg ar y man lle buoch yn sefyll neu’n eistedd rhag ofn bod eich ffôn, eich bag, eich allweddi neu unrhyw eiddo personol arall (gan gynnwys eich tocynnau i’r gêm!) yn dal yno.

Os byddwch yn colli unrhyw eiddo personol, y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â gweithredwr y gwasanaeth bws neu’r gwasanaeth trên yn uniongyrchol. Mae rhestr o weithredwyr a dolenni cyswllt â’u gwefannau (gyda’r holl wybodaeth gyswllt y bydd arnoch ei hangen) i’w gweld ar ein tudalen Dolenni Cyswllt Defnyddiol.

  

6. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch amgylch.

Mae bob amser yn bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch amgylch wrth i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar wasanaethau trên sy’n aml yn fwy o faint ac yn fwy prysur (yn enwedig ar ddiwrnod gêm).

Os byddwch yn gweld unrhyw beth amheus neu unrhyw beth sy’n peri pryder wrth i chi deithio, gallwch anfon neges destun yn dawel bach at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016. Rhowch wybod iddynt beth sy’n digwydd a ble’r ydych chi, a byddant wrth law i gynnig cyngor a chymorth. Dylech ffonio 999 os yw’n argyfwng.

Os hoffech sôn yn ddiweddarach am drosedd nad oedd yn argyfwng, gallwch lenwi ffurflen ar wefan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

 

Rydym yn gobeithio y cewch chi amser gwych yn dathlu Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2024, a siwrnai saff a hwylus ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Pob lwc i Gymru!

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon