Newyddion

How-to-travel-safely-on-public-transport-services-across-Wales

Sut mae teithio’n ddiogel ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru

18 Ebrill 2021

Wrth i gyfyngiadau’r Coronafeirws barhau i gael eu llacio, mae’n bwysig bod pob un ohonoch yn dilyn yr holl reolau diogelwch wrth deithio a’ch bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf i amserlenni gwasanaethau ledled Cymru.

Rydym wedi llunio’r canllawiau isod ynghylch y cyfyngiadau teithio presennol, beth y gallwch ei wneud i’ch cadw chi a chadw eich cyd-deithwyr yn ddiogel a sut y gallwn eich helpu i ailddechrau teithio, drwy ein tudalennau pwrpasol am y Coronafeirws.

 

Beth yw’r cyfyngiadau teithio sydd ar waith ar hyn o bryd?

Ers dydd Llun 12 Ebrill, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar deithio yng Nghymru nac ar deithio’n ôl ac ymlaen i Gymru o fannau eraill yn y DU. Ni chaniateir i bobl deithio dramor heb esgus rhesymol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i ofyn i bawb ystyried eu teithiau’n ofalus ac ystyried y bobl y maent yn cwrdd â nhw, er mwyn helpu i leihau’r risg o ledaenu Covid-19.

 

Sut y gallaf deithio’n ddiogel?

Mae nifer o fesurau ar waith er mwyn helpu i’ch cadw chi a chadw eich cyd-deithwyr a staff trafnidiaeth yn ddiogel ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae yna ganllawiau y bydd angen i chi eu dilyn wrth deithio:

  • Rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb (oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gorfod gwneud hynny) drwy gydol eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal ag mewn gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffyrdd, meysydd awyr a phorthladdoedd llongau fferi. At hynny, dylech barchu’r sawl sydd wedi’u heithrio am resymau meddygol rhag gorfod gwisgo gorchudd wyneb.
  • Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl teithio a defnyddiwch hylif diheintio’n aml.
  • Cadwch yn ddigon pell oddi wrth deithwyr eraill tra byddwch yn aros i ymuno â’ch gwasanaeth trafnidiaeth, eisteddwch yn ddigon pell oddi wrth deithwyr eraill pan fyddwch wedi ymuno â gwasanaeth neu, os nad oes modd i chi gadw pellter cymdeithasol, peidiwch ag eistedd wyneb yn wyneb â phobl eraill.
  • Pryd bynnag y bo modd, dylech ddefnyddio dulliau talu digyffwrdd. Os oes angen i chi ddefnyddio arian parod, dylech sicrhau bod yr arian cywir gennych. Gallwch gael gwybodaeth am brisiau tocynnau’r rhan fwyaf o wasanaethau bws drwy ddefnyddio ein hadnodd newydd ar gyfer prisiau tocynnau, sydd yn ein Cynlluniwr Taith.
  • Os oes modd i chi wneud hynny, dylech archebu eich teithiau ymlaen llaw. Os nad yw’n bosibl i chi wneud hynny, dylech sicrhau eich bod yn neilltuo digon o amser ar gyfer eich teithiau.
  • Cadwch y ffenestri’n agored pan fyddwch wedi ymuno â gwasanaethau, er mwyn helpu i sicrhau bod yna ddigon o awyr iach.
  • Ceisiwch osgoi bwyta ac yfed os gallwch chi, oni bai bod angen i chi wneud hynny am resymau meddygol.
  • Parchwch eich cyd-deithwyr a staff trafnidiaeth wrth deithio.

Peidiwch â theithio os ydych yn teimlo’n anhwylus, hyd yn oed os mân symptomau sydd gennych.

 

Sut y gall Traveline Cymru helpu?

Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth: Mae ein tîm data wrthi’n gweithio ar nifer sylweddol o newidiadau byr rybudd i amserlenni gan weithredwyr ledled Cymru. Cyn teithio, dylech fynd i’n tudalen bwrpasol ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’ i weld yr amserlenni diweddaraf gan weithredwyr, oherwydd ni allwn warantu y bydd ein Cynlluniwr Taith a’n Hamserlenni wedi’u diweddaru. Hoffem eich sicrhau bod ein tîm data wrthi’n ddiwyd yn gwneud yr holl newidiadau i wasanaethau cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cwestiynau Cyffredin Trafnidiaeth Cymru: Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n nerfus ynghylch defnyddio trafnidiaeth os nad ydych wedi teithio ers amser. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi llunio rhestr ddefnyddiol o gwestiynau cyffredin sy’n cynnwys llawer o ganllawiau gwerthfawr ynghylch beth y gallwch ei wneud i deithio’n ddiogel a pha fesurau diogelwch sydd wedi’u cyflwyno ar wasanaethau er mwyn helpu i’ch cadw chi a chadw staff trafnidiaeth yn ddiogel. Maent hefyd yn ymdrin â theithio ar draws y ffin a dulliau teithio llesol ymhlith pethau eraill.

Canllawiau gweithredwyr bysiau ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws: Rydym hefyd wedi llunio rhestr o ganllawiau gan weithredwyr bysiau ledled Cymru ynghylch teithio’n ddiogel, sy’n egluro’r mesurau y maent wedi’u cyflwyno, er enghraifft defnyddio cyfarpar diogelu personol, cyflwyno trefniadau glanhau, lleihau capasiti gwasanaethau, gosod arwyddion am y Coronafeirws, a mwy.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i gynllunio eich taith, ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00. Mae ein hasiantiaid ar gael i gymryd eich galwadau o 7am i 8pm bob dydd.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon