Cyngor ynghylch cadw’n ddiogel wrth deithio yng Nghymru y Nadolig hwn
Wrth i’r Nadolig nesáu ac wrth i filoedd o bobl ruthro o amgylch i ddathlu’r ŵyl mae Traveline Cymru, sef y gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, yn cynghori pobl i gofio ambell gyngor syml ynghylch teithio yn ystod y gaeaf, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
Traveline Cymru yn canmol “gwaith arloesol” rheilffordd arobryn
Mae Traveline Cymru – y cwmni sy’n darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus – yn dathlu “gwaith arloesol” Rheilffordd Tal-y-llyn, sef y rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei chadw a’i hadnewyddu, wrth iddi ennill gwobr fawr a noddwyd gan y sefydliad.
Diolch i'r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r diwydiant bysiau, bydd y cynllun teithio'n rhatach ar fysiau, Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer pobl ifanc yn cael ei ymestyn i gynnwys pawb rhwng 16 a 21 mlwydd oed sy'n byw yng Nghymru.
Mae’r Nadolig yn dechrau yn swyddogol yng Nghaerdydd ddydd Iau 15 Tachwedd pan fo calendr gwerth chweil o hwyl a sbri yn dod i’n strydoedd gyda Nesáu at y Nadolig.
Traveline Cymru yn dathlu canlyniad “rhagorol” wrth gyrraedd y 5 miliwn
Mae Traveline Cymru, sef y cwmni gwybodaeth am drafnidiaeth yng Nghymru, yn dathlu canlyniadau “rhagorol” ar ôl darparu dros 5 miliwn darn o wybodaeth am deithio i bobl ledled y wlad.
Traveline Cymru yn cydweithio â masnachfraint newydd ar gyfer rheilffyrdd
Wrth i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru baratoi i fwynhau masnachfraint newydd sbon ar gyfer rheilffyrdd, sy’n werth £5 biliwn, bydd Traveline Cymru yn helpu i hwyluso siwrneiau i deithwyr.
Mae Traveline Cymru yn falch o fod yn noddi ‘Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron’, sef ymgyrch y mae Gofal Canser Tenovus yn ei gynnal yn ystod mis Hydref eleni.
Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant Yn Sbardun I Ymgyrch ‘Cyflawni Gyda'n Gilydd’ Stagecoach
Gweithgareddau wedi’u cynllunio i helpu i ddathlu a hybu cynhwysiant ac amrywiaeth. Cynhelir ymgyrch Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant o 24-30 Medi, a bydd yn nodi cychwyn menter bedair wythnos ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ Stagecoach
Dewch i gwrdd â thîm Traveline Cymru yn un o Ffeiriau’r Glas!
Wrth i’r rheini sydd newydd adael yr ysgol baratoi i hedfan dros y nyth ac ymuno â dathliadau Wythnos y Glas yn eu prifysgol, bydd Traveline Cymru yn teithio o gwmpas prifysgolion Cymru er mwyn helpu myfyrwyr i wybod sut mae mynd o le i le.
Rhai newidiadau lleol i’r cynllun sy’n caniatáu i bobl deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru ar benwythnosau.
Mae’r cynllun sy’n caniatáu i bobl deithio am ddim ar wasanaethau TrawsCymru ar benwythnosau yn dal i weithredu ar draws y gwasanaeth T14, ond o ddydd Sadwrn 15 Medi ymlaen bydd yn rhaid i deithwyr lleol sy’n teithio rhwng Abaty Belmont a Henffordd dalu’r prisiau arferol am eu tocynnau bws.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.