Gyrwyr bysiau Stagecoach gyda’r gorau mewn cynllun i hybu gyrru’n ddiogel gan arbed tanwydd
Mae gweithwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn cynllun byd-eang i fesur perfformiad, sy’n asesu’r graddau y mae gyrwyr yn gyrru’n ddiogel gan arbed tanwydd.
Datganiad ysgrifenedig ynghylch Cerdyn Teithio Ieuenctid. Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Mae annog mwy o bobl ifanc i deithio ar y rhwydwaith bysiau yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Dyna pam yr ydym wedi bod yn ariannu cynllun peilot ers mis Medi 2015, sy’n cynnig teithiau rhatach ar fysiau i bobl ifanc, dan y brand “FyNgherdynTeithio”.
POBL YN ARBED £1,000 Y FLWYDDYN WRTH DDEFNYDDIO’R BWS YN LLE’R CAR I DEITHIO I’R GWAITH, YN ÔL AROLWG
Mae ymchwil genedlaethol newydd wedi darganfod bod pobl sy’n defnyddio’r bws i deithio i’r gwaith yn arbed £1,000 ar gyfartaledd, o’u cymharu â’r sawl sy’n teithio i’r gwaith mewn car.
Clwb 55 Arriva – y cynnig ar gyfer teithio yn ystod oriau nad ydynt yn oriau brig i bawb sy’n 55 oed neu’n hŷn
Mae Clwb 55 Arriva yn gynnig arbennig, a fydd yn eich galluogi i deithio i unrhyw le ar rwydwaith Trenau Arriva Cymru a thu hwnt am gyn lleied â £26 am docyn dwyffordd.
Mae llawer o weithredwyr yn bwriadu dod â’u gwasanaethau i ben yn gynnar ar Noswyl Nadolig a Nos Galan. O ganlyniad, efallai na fydd ein cynlluniwr taith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi, felly cofiwch fynd i’n tudalen ynghylch Teithio dros y Nadolig i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Bydd y sawl sy’n teithio ar y bws rhwng Maerdy yng Nghwm Rhondda a Chaerdydd yn gallu teithio mewn mwy o steil a moethusrwydd wrth i Stagecoach yn Ne Cymru lansio ei fflyd ddiweddaraf o fysiau aur moethus yn swyddogol ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2016.
Bws Caerdydd yn gostwng prisiau tocynnau ar Ddydd Gwener Gwallgo
Mae’n debyg mai 25 Tachwedd – neu ‘Ddydd Gwener Gwallgo’ – fydd diwrnod siopa prysura’r flwyddyn, a bydd Bws Caerdydd yn eich helpu i arbed arian drwy ostwng prisiau ei docynnau dydd.
Bydd cwmni Bws Caerdydd yn agor drysau ei ddepo ar Sloper Road er mwyn cynnal diwrnod dychrynllyd llawn hwyl, ddydd Sul 30 Hydref rhwng 12pm a 4pm, i ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu Bws Caerdydd.
Dros 55 oed? Dyma gyfle i deithio i unrhyw le ar rwydwaith Trenau Arriva Cymru am gyn lleied â £24 am docyn dwyffordd Mae tocyn Clwb 55 Arriva ar gyfer teithio yn ystod oriau nad ydynt yn oriau brig yn ffordd wych o ymweld â lleoedd newydd a’ch hoff leoed
Prisiau isel arbennig a llawer o hyblygrwydd heb fod angen i chi brynu tocyn ymlaen llaw – gallwch gyrraedd yr orsaf a theithio’n syth. Mae’r cynnig arbennig hwn yn para tan 27 Hydref 2016.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.