Latest Tweets
@TravelineCymru
RT #Blackwood- Due to a technical fault the 151 from Blackwood at 08:36 has not run, a fitter is working on it now and… https://t.co/kjAL45dWga
@TravelineCymru
RT The below trips cannot operate due to driver availability and relief cover.
101 service (08:22) Pontypridd to Sain… https://t.co/fhUT0HkeAn
@TravelineCymru
RT 901 Service
(08:31) Ystrad Mynach to Blackwood (08:52) has a technical issue; an alternative bus will be arranged t… https://t.co/9jztpwccTL
@TravelineCymru
RT Am gyfnod cyfyngedig, gallwch arbed 40% i ffwrdd o docynnau Advance, yn ein sêl tocynnau 🥳
Arbedwch ar deithiau be… https://t.co/y9jRANCmcw
@TravelineCymru
RT For a limited time only, get 40% off Advance tickets in our train ticket sale 🥳
Save on long-distance journeys bet… https://t.co/5Feepun3lg

01 Ebr
Trafnidiaeth Cymru yn llofnodi cytundeb i gymryd yr awenau gan Traveline Cymru
Gan adeiladu ar lwyddiant gwasanaeth poblogaidd Traveline Cymru, mae’r cwmni sy’n berchen arno, PTI Cymru, wedi cael ei drosglwyddo i Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn cytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno arno i greu canolfan wybodaeth integredig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth

31 Maw
Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn, Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau i newid y ffordd rydyn ni'n teithio
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, y diwydiant bysiau a theithwyr ar fodel masnachfreinio arfaethedig sydd â'r nod, yn y pen draw, o ddarparu Un Rhwydwaith, Un Amserlen ac Un Tocyn
Rhagor o wybodaeth

23 Maw
Lansio fflecsi yn Rhuthun
Bydd Cyngor Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru yn cyflwyno cynllun cludiant cyhoeddus arloesol sy’n ymateb i’r galw yn ac o amgylch ardal Rhuthun.
Rhagor o wybodaeth

07 Chw
Diffibrilwyr sy'n achub bywydau bellach mewn gorsafoedd ledled Cymru a'r gororau
Mae gwaith wedi dechrau i osod mwy na 200 o ddiffibrilwyr achub bywyd yng ngorsafoedd rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar draws Cymru a’r gororau.
Rhagor o wybodaeth

03 Chw
Dim tâl am deithio ar fws yng Nghasnewydd ym mis Mawrth
Bydd teithwyr ar fysiau yng Nghasnewydd ym mis Mawrth yn cael teithio am ddim, diolch i gynllun peilot newydd sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth

01 Chw
Ymgynghori ar drafnidiaeth gynaliadwy yn Ne-ddwyrain Cymru
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i roi eu barn ar brosiectau i uwchraddio cysylltiadau teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd ac i wella mynediad i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren.
Rhagor o wybodaeth

31 Ion
Cynllun talu digyffwrdd ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ ar gael yn awr ar fysiau Arriva yng Nghymru
Arriva yn lansio cynllun talu digyffwrdd ‘Tapio Unwaith, Tapio Eilwaith’ yn y gogledd – a fydd yn cynnig ffordd newydd hawdd a sydyn i gwsmeriaid dalu’r pris gorau am eu teithiau ar fysiau.
Rhagor o wybodaeth

24 Ion
TrC yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £40m ar drenau Class 175
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn dathlu cwblhau gwaith i adnewyddu ei fflyd o drenau pellter hir – y Class 175.
Rhagor o wybodaeth

23 Ion
Mwy o ddewis i gwsmeriaid rheilffyrdd wrth i storfeydd cyfleustra ddechrau gwerthu tocynnau TrC
O ddydd Llun 24 Ionawr 2022, bydd cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, o fewn ardal Metro De Cymru, yn gallu prynu tocynnau trên dethol ar gyfer teithiau lleol mewn nifer o siopau cyfleustra.
Rhagor o wybodaeth

17 Ion
Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn penodi Cyfarwyddwr parhaol yng Nghymru
Mae Gemma Lelliott wedi bod yn rhan o’r sefydliad ers 3 blynedd ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Interim yng Nghymru yn ystod y 6 mis diwethaf.
Rhagor o wybodaeth

14 Ion
Bws Caerdydd yn cyhoeddi y bydd yn lansio ei fysiau trydan y mis hwn
Bydd y 36 o fysiau trydan heb allyriadau yn helpu i greu system drafnidiaeth lân a chynaliadwy yn y brifddinas.
Rhagor o wybodaeth

14 Ion
Gwaith adeiladu ar fin dechrau i greu Hwb Trafnidiaeth Porth
Mae’r datblygiad yn cynnwys hwb trafnidiaeth modern yng nghanol y dref, a fydd yn galluogi pobl i deithio’n hwylus ar fysiau a threnau.
Rhagor o wybodaeth

13 Ion
Nextbike yn ailddechrau yng Nghaerdydd gyda mesurau newydd ar waith yn dilyn fandaliaeth ac achosion o ddwyn
Roedd y cynllun wedi’i atal dros dro am ddau fis yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ond mae wedi ailddechrau ers 13 Ionawr.
Rhagor o wybodaeth

12 Ion
Mae gwaith adeiladu yn parhau ar Metro De Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gydag adeiladu Metro De Cymru a chafodd gwaith mawr ei wneud dros y Nadolig.
Rhagor o wybodaeth

06 Ion
O 10 Ionawr ymlaen, bydd Bws Caerdydd yn gweithredu amserlenni dydd Sadwrn o ddydd Llun i ddydd Gwener oherwydd effaith yr amrywiolyn Omicron
Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn sefydlog ac yn ddibynadwy.
Rhagor o wybodaeth

05 Ion
Cyfarwyddwr Bus Users yng Nghymru yn cael OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd
Mae Barclay Davies, Cyfarwyddwr Bus Users yng Nghymru, wedi cael OBE yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2022.
Rhagor o wybodaeth

31 Rha
Trafnidiaeth Cymru yn diweddaru ei amserlen argyfwng
Gofynnir i deithwyr rheilffordd wirio cyn teithio wrth i Drafnidiaeth Cymru ddiweddaru ei amserlen reilffordd frys o ddydd Llun 3 Ionawr.
Rhagor o wybodaeth

21 Rha
Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno amserlen frys i baratoi ar gyfer cynnydd yn Omicron
Gofynnir i deithwyr rheilffordd wirio cyn teithio wrth i Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi amserlen reilffordd frys o ddydd Mercher 22 Rhagfyr.
Rhagor o wybodaeth

16 Rha
Ble mae dod o hyd i wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus os byddwch yn teithio dros yr ŵyl
Mae Traveline Cymru yn pwyso ar aelodau’r cyhoedd i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy fynd i’w dudalen bwrpasol ar gyfer Gwybodaeth ynghylch Teithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Rhagor o wybodaeth

14 Rha
Ramblers Cymru yn cyhoeddi’r cymunedau a ddewiswyd i gymryd rhan yn y prosiect ‘Llwybrau i Lesiant’
Mae prosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru, a arweinir gan gymunedau ac sy’n cael cyllid gwerth £1.2 filiwn, yn ceisio trawsnewid arferion cerdded a byd natur ar draws 18 o ardaloedd.
Rhagor o wybodaeth